麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

Carol Blygain: Gwyrth y Geni

Y Talwrn

Available for over a year

Yn Llyfyr y Bywyd cawn weld, o鈥檌 agoryd, Holl hanes y golud yn glir, Am stori cenhedliad yr Iesu ein Ceidwad, Heb ynddo鈥檙 un gwyriad o鈥檙 gwir. Yn nydd Herod frenin y Baban dilychwin I deulu cyffredin a roed Yn rhodd gan y Duwdod i ddangos ei ddyndod Fel arwydd o鈥檙 undod erioed. Heb gysgod un cronglwyd, heb wely nac aelwyd, Anrhydedd ni roddwyd i鈥檞 radd, Ond cafodd gymwynas, er ised ei hurddas 鈥� Man benthyg hen gowlas a gadd. Ac eto, mewn difri, fe ddywed y stori (Mae hon yn adroddi yn drist), Wrth gablu yn ddigllon a phoeri melldithion, Bu鈥檙 angau yn greulon i Grist. Cymwynas gan wrda o Arimathea, Wrth fenthyg ei gladdfa yn glau, Wnaeth ddwyn corff yr Iesu i鈥檞 ogof a鈥檌 gladdu A maen rhoed i鈥檞 gelu a鈥檌 gau. Ond yna 鈥檓hen tridiau fe鈥檌 codwyd o鈥檙 angau A daeth o鈥檌 grafangau yn fyw, A mwyach mae鈥檔 eiriol dros bob enaid meidrol I droi rhag y ddiafol at Dduw. Dewi Pws 9.5

Programme Website
More episodes