Main content

Can ysgafn: Obsesiwn

Can ysgafn: Obsesiwn

Roedd lawnt Ronald Wyn fel bwrdd snwcar, bob gwelltyn yn boenus o hardd
Ond gwelodd, un bore dydd Gwenar, ddau dwmpath o bridd yn yr ardd.

Yn brydlon gosododd y trapiau.Y Twrch wthiodd bric i bob un.
Roedd teirgwaith yn fwy o dwmpathau pan wawriodd hi fore dydd Llun.

Am fisoedd bu Ron drwy鈥檙 nosweithiau yn stelcio鈥檔 yr ardd efo rhaw
Yn stwffio Drain Duon i鈥檙 tyllau a gwydrau 鈥榙i鈥檞 malu i鈥檙 baw.

Yn raddol fe wariodd o ffortiwn wrth drio cael gwared o鈥檙 diawl
A rhaid oedd anghofio鈥檙 ecstensiwn a gwyliau mis Awst ym Mhorthcawl

Dirywiodd yr ardd yn sylweddol.Edrychai fel Dwyrain Berlin
Efo llu o dwmpathau bach heriol yn codi fan draw a fan hyn

R鈥檕l pori dros ddegau o dapiau o鈥檙 camera C.C.T.V.
Aeth ati o ddifri i鈥檞 ddifa a chanddo fo arfau di-ri.

Fe wnaethant eu gwaith yn rhagorol, (y petrol, y nwy a鈥檙 harp诺n)
A鈥檙 cyrff a bentyrai鈥檔 wythnosol yn gathod, cwningod a ch诺n.

Er gwaetha鈥檙 holl drais a鈥檙 llofruddio y twrch oedd yn glud dan y gro
A Ron a ddiflanodd dan grio i鈥檙 Cwt Pen Draw鈥檙 Ardd o dan glo

Daeth allan gan ollwng glyfeirion.Mewn sach ar ei gefn yr oedd bom
Adawodd y cwt yn grybibion a鈥檙 ardd fel golygfa o鈥檙 Somme

Mae Ron erbyn hyn yn y ddaear ond ni chaiff o orffwys mewn hedd
O鈥檙 herwydd fod twrch bach ymffrostgar 鈥榙i symud drws nesa鈥� i鈥檞 fedd.

Jos
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o