Main content
Soned neu Delyneg: Sgidiau
Mae carnedd goch uwchben y ffordd yn Stiniog
newydd iti ddod drwy鈥檙 bwlch a throi
at lechi鈥檙 dre: 么l b诺ts y milwyr beichiog
ddaeth yn 么l o ryfel gynt a rhoi
i faw y ffosydd ffling a lluch i hoelion
gorymdeithio 鈥� o鈥檙 rheng, yn ddynion rhydd.
Chwedl ffol, yn 么l hanesydd lleol: sbarion
lledr o ffatri sgidiau plant rhyw ddydd.
Ond mae hi鈥檔 stori fyw, croen tir yn yn gofeb
lafar gwlad i graith tu hwnt i hud
a glesni Mai; a thomen o gasineb
milwyr at y drefn o drampio鈥檙 byd,
a鈥檜 nerth o deimlo鈥檜 bro o dan eu gwadnau,
gwich gi芒t, a chroesi鈥檙 trothwy鈥檔 nhraed eu sanau.
Myrddin ap Dafydd
10