Main content
Telyneg: Grisiau
Ar bob gris o gropian byw,
yn niniweidrwydd rhyfeddod
araf yw鈥檙 symud a鈥檙 ymdopi.
Wrth esgyn grisiau plentyndod
ymsythu a disgyn cerdded
yng nghysgod gofal dwylaw mam.
Ond ar ris llencyndod
ffraeo a checru
a strancio hyd loriau drw caled.
Cyn ehedeg ar risiau bywyd
i鈥檙 uchelfannau rhydd;
yna gweld culni鈥檙 grisiau
yn codi oddi fry,
mor sydyn y cyrhaeddais y fan hyn;
ac yno yng nghornel llygaid fy meddwl
gwelaf oleuni鈥檙 grisiau dibendraw.
Lois Jones
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Cerdd yr Wythnos - Myrddin ap Dafydd
Hyd: 00:41