Episode details

Available for over a year
Ar bob gris o gropian byw, yn niniweidrwydd rhyfeddod araf yw’r symud a’r ymdopi. Wrth esgyn grisiau plentyndod ymsythu a disgyn cerdded yng nghysgod gofal dwylaw mam. Ond ar ris llencyndod ffraeo a checru a strancio hyd loriau drw caled. Cyn ehedeg ar risiau bywyd i’r uchelfannau rhydd; yna gweld culni’r grisiau yn codi oddi fry, mor sydyn y cyrhaeddais y fan hyn; ac yno yng nghornel llygaid fy meddwl gwelaf oleuni’r grisiau dibendraw. Lois Jones 8.5
Programme Website