Myrddin ap Dafydd - Diod Orau Cegin Gwenno
Wedi eitem gyda Tony Hatcher ar raglen Geraint Lloyd nos Fawrth yn Sioe Llanelwedd.
Diod Orau Cegin Gwenno
Beth eleni oedd yn gwerthu
Yn y bar yn Sioe Fawr Cymru?
Ar y Maes, a鈥檙 haul yn danbaid,
Rhaid bod pawb yn mynd am lymaid.
Gwin y gwan yng Nghegin Gwenno 鈥�
Gwan oedd llif y gasgen honno;
Seidar fferm o鈥檙 fala gora鈥� 鈥�
Pasio鈥檙 pwmp yr oedd y dyrfa.
Peint go-iawn o gwrw chwerw 鈥�
Surodd sels y cwrw hwnnw;
Cwrw coch a chwrw melyn 鈥�
Prin y gwagiwyd un diferyn.
Sangria, Pimms a gwinoedd tramor 鈥�
Nid oedd diben bron eu hagor;
Lager bybliog; cwrw ceglyd 鈥�
Pasiwyd heibio鈥檔 ddigon sychlyd.
Beth eleni oedd yn gwerthu
Yn y bar yn Sioe Fawr Cymru?
Dwr 鈥� yn oer a chlir a hyfryd;
Dwr yn bur o ffynnon bywyd.
Gawn ni g芒n yng Nghegin Gwenno?
Dwr Huw Jones oedd amla yno;
Synnu mawr oedd ym mar Stocmans
Fod pawb leni鈥檔 cadw鈥檌 falans!