Episode details

Available for over a year
Wedi eitem gyda Tony Hatcher ar raglen Geraint Lloyd nos Fawrth yn Sioe Llanelwedd. Diod Orau Cegin Gwenno Beth eleni oedd yn gwerthu Yn y bar yn Sioe Fawr Cymru? Ar y Maes, a鈥檙 haul yn danbaid, Rhaid bod pawb yn mynd am lymaid. Gwin y gwan yng Nghegin Gwenno 鈥� Gwan oedd llif y gasgen honno; Seidar fferm o鈥檙 fala gora鈥� 鈥� Pasio鈥檙 pwmp yr oedd y dyrfa. Peint go-iawn o gwrw chwerw 鈥� Surodd sels y cwrw hwnnw; Cwrw coch a chwrw melyn 鈥� Prin y gwagiwyd un diferyn. Sangria, Pimms a gwinoedd tramor 鈥� Nid oedd diben bron eu hagor; Lager bybliog; cwrw ceglyd 鈥� Pasiwyd heibio鈥檔 ddigon sychlyd. Beth eleni oedd yn gwerthu Yn y bar yn Sioe Fawr Cymru? Dwr 鈥� yn oer a chlir a hyfryd; Dwr yn bur o ffynnon bywyd. Gawn ni g芒n yng Nghegin Gwenno? Dwr Huw Jones oedd amla yno; Synnu mawr oedd ym mar Stocmans Fod pawb leni鈥檔 cadw鈥檌 falans!
Programme Website