Main content

Christine James - Bardd Preswyl Ionawr

Bardd Preswyl Ionawr - Yr Archdderwydd Christine James yn sgwrsio efo Dylan Jones.

Dau Wynebog

Yn 么l yr hen Rufeiniaid, duw dechreuadau a newidiadau oedd Ianws, a chan hynny鈥檔 dduw drysau a gatiau ac agoriadau. Fe鈥檌 darlunnir yn aml a dau wyneb ganddo, y naill yn edrych tuag yn 么l a鈥檙 llall yn edrych tuag ymlaen. O鈥檌 enw ef, fe ddywedir, y daw enw mis Ionawr.

Saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog
gan guro鈥檔 daer am gael dod mewn i鈥檔 tai:
agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog.

Dan becyn o brofiadau mae e鈥檔 llwythog,
g诺yl, gras a gofid yw ei ddeunydd crai:
saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog.

O鈥檔 blaen, fe daena ambell ddiwrnod heulog;
daw stormydd garw o鈥檌 bwn i guro rhai:
agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog.

O鈥檌 sach, tyn Ionawr a鈥檌 bibonwy miniog,
a鈥檜 dilyn, chwap, gan awel mwynder Mai:
saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog.

Mae yn ei boced wg cymylau cuchiog
(ond dan ei het mae awyr las ddi-fai):
agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog.

Trown lygaid llynedd dros ei nwyddau oriog,
rhaid prynu lles y llanw, broc y trai;
saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog 鈥�
agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog.

Christine James
Dydd Calan 2015

Lluniwyd fel rhan o weithgarwch 鈥楤ardd y Mis鈥� Radio Cymru, a鈥檌 darlledu ar raglen Dylan Jones, 2 Ionawr 2015

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau