麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,4 mins

Christine James - Bardd Preswyl Ionawr

Rhaglen Dylan Jones

Available for over a year

Dau Wynebog Yn 么l yr hen Rufeiniaid, duw dechreuadau a newidiadau oedd Ianws, a chan hynny鈥檔 dduw drysau a gatiau ac agoriadau. Fe鈥檌 darlunnir yn aml a dau wyneb ganddo, y naill yn edrych tuag yn 么l a鈥檙 llall yn edrych tuag ymlaen. O鈥檌 enw ef, fe ddywedir, y daw enw mis Ionawr. Saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog gan guro鈥檔 daer am gael dod mewn i鈥檔 tai: agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog. Dan becyn o brofiadau mae e鈥檔 llwythog, g诺yl, gras a gofid yw ei ddeunydd crai: saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog. O鈥檔 blaen, fe daena ambell ddiwrnod heulog; daw stormydd garw o鈥檌 bwn i guro rhai: agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog. O鈥檌 sach, tyn Ionawr a鈥檌 bibonwy miniog, a鈥檜 dilyn, chwap, gan awel mwynder Mai: saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog. Mae yn ei boced wg cymylau cuchiog (ond dan ei het mae awyr las ddi-fai): agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog. Trown lygaid llynedd dros ei nwyddau oriog, rhaid prynu lles y llanw, broc y trai; saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog 鈥� agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog. Christine James Dydd Calan 2015 Lluniwyd fel rhan o weithgarwch 鈥楤ardd y Mis鈥� Radio Cymru, a鈥檌 darlledu ar raglen Dylan Jones, 2 Ionawr 2015

Programme Website
More episodes