Chwedl y grempog fawr
Cerdd gan Mair Tomos Ifans.
Doedd bod ar Radio Cymru ddim yn ddigon i Geraint Lloyd,
Roedd am fod lot fwy enwog na Tomo hyd yn oed;
Cael ennill record Guiness, ar hynny roedd ei fryd -
Penderfynodd Geraint wneud crempog fwya鈥檙 byd.
Hysbysebwyd y digwyddiad o F么n rholl ffordd i Went
Drwy yrru鈥檔 araf araf bach mewn clamp o lori sment,
Roedd micsar anferth ar gefn hon, a hwnnw鈥檔 troi a throi,
A mil o fois y loris yn llwytho 鈥� a thindroi ;
Can tunnell o flawd codi a sach o gabanet,
Mynydd mawr o fenyn a llwch hen sigaret -
I mewn a nhw i 鈥榬 micsar mawr, a halen fesul pwys,
A hynny er mwyn sirchau umami lot mwy dwys !
Dwsin o ddwsiynnau o wyau g诺ydd a chwadan,
A chymaint 芒 llyn Tegid o laeth gan fuches Fresian,
Mymryn o finag a Wyddfa o siwgwr,
A gwaddod hen jariau o waelod hen gwpwr鈥� -
I mewn a nhw i鈥檙 micsar a chymysgu鈥檙 stwff i gyd
Er mwyn i Geraint Lloyd gael gwneud crempog fwya鈥檙 byd;
Ond sut i gwcio鈥檙 crempog ? Ple cai badell ddigon mawr ?
Padell fwy na鈥檙 badell fwyaf ... padell ddigon mawr i gawr ...
Fe gafodd Geriant syniad - benthycodd badell Jodrell Bank
A鈥檌 rhoi ar ben llosgfynydd a鈥檌 thanio gyda tanc -
I鈥檙 badell arllwysodd y lori y mics -
Stwff digon tebyg i fortar wal frics -
Coginiodd un ochr i鈥檙 crempog mewn dim
I neud rochr arall rhaid ei throi yn reit chwim,
Fe鈥檌 taflodd i鈥檙 awyr er mwyn ei throi drosodd
Ond ddaeth i hi ddim lawr 鈥� yn wir fe ddiflanodd -
A nawr mae Geraint Lloyd yn arwr yn enwog,
Mi lwyddodd i lewni鈥檙 twll ozone fo鈥檌 grempog,
Mi achubodd y blaned 鈥� y cyfan i gyd -
Am iddo wneud crempog 鈥� y fwya鈥檔 y byd.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Chwefror 2016: Mair Tomos Ifans—Gwybodaeth
Bardd y Mis ar gyfer Chwefror 2016 yw Mair Tomos Ifans.
Mwy o glipiau 09/02/2016
-
Un flwyddyn tra鈥檔 taflu fy nghrempog
Hyd: 00:30