Episode details

Available for over a year
Doedd bod ar Radio Cymru ddim yn ddigon i Geraint Lloyd, Roedd am fod lot fwy enwog na Tomo hyd yn oed; Cael ennill record Guiness, ar hynny roedd ei fryd - Penderfynodd Geraint wneud crempog fwya鈥檙 byd. Hysbysebwyd y digwyddiad o F么n rholl ffordd i Went Drwy yrru鈥檔 araf araf bach mewn clamp o lori sment, Roedd micsar anferth ar gefn hon, a hwnnw鈥檔 troi a throi, A mil o fois y loris yn llwytho 鈥� a thindroi ; Can tunnell o flawd codi a sach o gabanet, Mynydd mawr o fenyn a llwch hen sigaret - I mewn a nhw i 鈥榬 micsar mawr, a halen fesul pwys, A hynny er mwyn sirchau umami lot mwy dwys ! Dwsin o ddwsiynnau o wyau g诺ydd a chwadan, A chymaint 芒 llyn Tegid o laeth gan fuches Fresian, Mymryn o finag a Wyddfa o siwgwr, A gwaddod hen jariau o waelod hen gwpwr鈥� - I mewn a nhw i鈥檙 micsar a chymysgu鈥檙 stwff i gyd Er mwyn i Geraint Lloyd gael gwneud crempog fwya鈥檙 byd; Ond sut i gwcio鈥檙 crempog ? Ple cai badell ddigon mawr ? Padell fwy na鈥檙 badell fwyaf ... padell ddigon mawr i gawr ... Fe gafodd Geriant syniad - benthycodd badell Jodrell Bank A鈥檌 rhoi ar ben llosgfynydd a鈥檌 thanio gyda tanc - I鈥檙 badell arllwysodd y lori y mics - Stwff digon tebyg i fortar wal frics - Coginiodd un ochr i鈥檙 crempog mewn dim I neud rochr arall rhaid ei throi yn reit chwim, Fe鈥檌 taflodd i鈥檙 awyr er mwyn ei throi drosodd Ond ddaeth i hi ddim lawr 鈥� yn wir fe ddiflanodd - A nawr mae Geraint Lloyd yn arwr yn enwog, Mi lwyddodd i lewni鈥檙 twll ozone fo鈥檌 grempog, Mi achubodd y blaned 鈥� y cyfan i gyd - Am iddo wneud crempog 鈥� y fwya鈥檔 y byd.
Programme Website