Main content

Cof Cenedl gan Gruffudd Owen

Cof Cenedl
Gawn ni dwrio drwy鈥檙 archif
a gloddesta fel pethau hurt ar drugareddau鈥檙 hen bobol?
Gawn ni wirioni鈥檔 boitsh ar ryw stori ddim byd
ac ailddysgu ymadroddion o鈥檔 plentyndod?
Gawn ni alw鈥檙 radio鈥檔 鈥榳eirlas鈥�?
Gawn ni feddwi ar ffraethineb ein neiniau
a dawn dweud yr hen deidiau
cyn sobri鈥檔 sydyn
ar ganol gneud panad
wrth i leisiau鈥檙 meirwon
roi cig a gwaed ar esgyrn ein hanes?
Gawn ni anwylo ein 鈥檔ialwch
a hidio dim am y llwch
na鈥檙 sawl sy鈥檔 ein cyhuddo
o fod yn hen ffasiwn fel het?
Gawn ni hiraethu heb gywilydd
am lefydd na welsom erioed?
Gawn ni ymdrybaeddu fel moch
yn y storws sydd ym mhob stori,
yn y dweud mawr sy鈥檔 y siarad m芒n?
Gawn ni feddwi ar donfeddi ddoe
a gweld y gwir wrth glywed y geiriau?
Dewch, dewch i dwrio drwy鈥檙 archif.
Rydan ni wedi dirwesta鈥檔 rhy hir
tra鈥檔 llowcio sothach pobol eraill.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau Penblwydd Hapus Cofio!