Episode details

Available for over a year
Cof Cenedl Gawn ni dwrio drwy鈥檙 archif a gloddesta fel pethau hurt ar drugareddau鈥檙 hen bobol? Gawn ni wirioni鈥檔 boitsh ar ryw stori ddim byd ac ailddysgu ymadroddion o鈥檔 plentyndod? Gawn ni alw鈥檙 radio鈥檔 鈥榳eirlas鈥�? Gawn ni feddwi ar ffraethineb ein neiniau a dawn dweud yr hen deidiau cyn sobri鈥檔 sydyn ar ganol gneud panad wrth i leisiau鈥檙 meirwon roi cig a gwaed ar esgyrn ein hanes? Gawn ni anwylo ein 鈥檔ialwch a hidio dim am y llwch na鈥檙 sawl sy鈥檔 ein cyhuddo o fod yn hen ffasiwn fel het? Gawn ni hiraethu heb gywilydd am lefydd na welsom erioed? Gawn ni ymdrybaeddu fel moch yn y storws sydd ym mhob stori, yn y dweud mawr sy鈥檔 y siarad m芒n? Gawn ni feddwi ar donfeddi ddoe a gweld y gwir wrth glywed y geiriau? Dewch, dewch i dwrio drwy鈥檙 archif. Rydan ni wedi dirwesta鈥檔 rhy hir tra鈥檔 llowcio sothach pobol eraill.
Programme Website