Stori
Marged Tudur sy'n cofio'r dicter wrth i'r cyfryngau adrodd 'stori' marwolaeth ei brawd
Bardd mis Ebrill, Marged Tudur, sy'n cyfansoddi ar y testyn "Dicter".
Mae'n edrych yn ol ar y profiad o alaru am ei brawd a theimlo yn ddig wrth i'r cyfryngau adrodd ar y 'stori'.
Stori
Mae dwy fodryb yn dweud wrtha i
fod ei lun ar dudalen flaen y Daily Post heddiw,
iddo hawlio eitem ar y Post Prynhawn
a鈥檌 fod yn rhan o bytiau ffarwel
newyddion y 麻豆社, ITV ac S4C
a phe tawn i鈥檔 teipio ei enw ar y we
mi welwn erthyglau, trydar a theyrngedau
a, 鈥榞wranda,
mi fydda鈥檔 ddoeth i ti beidio gweld.鈥�
Dwi鈥檔 cogio cytuno
ac yn cau drws y parlwr
ar y cyd-adrodd
鈥榤eddwl amdana chdi ydan ni.鈥�
Dwi鈥檔 dod o hyd i鈥檙 papur
dan glustogau鈥檙 soffa,
dwi鈥檔 rhoi batris yn y radio,
dwi鈥檔 ail-gysylltu鈥檙 wi-fi
ac yn rhoi plwg y teledu yn 么l yn y wal.
Ac mae o yno efo鈥檙 tywydd
sy鈥檔 staying dry with some sunny spells,
mae o yno rhwng Miliband a Britain鈥檚 Got Talent,
Patagonia a lluniau Kyffin Williams.
Mae o鈥檔 ateb taclus terfynol
yng nghanol cwestiynau
which country has the least sexiest banknotes?
a pha mor anodd ydi hi
i brynu anrheg delfrydol i鈥檆h cymar?
Mae o yno drws nesa i鈥檙 hysbys
70% off home, garden and fashion.
Gohebwyr yn rhestru ffeithiau
am gar a chorff ac anafiadau,
a jest cyn cloi,
maen nhw鈥檔 poeri brawddegau
mewn lleisiau print m芒n
ac yn annog 鈥榰nrhyw un
oedd ar yr A487
rhwng 3 a 4 y bore
i ddeialu 101.鈥�
Am ennyd neithiwr,
fe wnaethant bit茂o
cyn cofio鈥檔 sydyn am y pitsa
oedd yn y popdy,
y dillad budur ar y landing,
y word count a鈥檙 deadline.
Ac uwch y meat feast pitsa
roedden nhw eisoes
yn byseddu鈥檙 stori nesaf.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ebrill 2017 - Marged Tudur—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer Mis Ebrill 2017 yw Marged Tudur.