Episode details

Available for over a year
Bardd mis Ebrill, Marged Tudur, sy'n cyfansoddi ar y testyn "Dicter". Mae'n edrych yn ol ar y profiad o alaru am ei brawd a theimlo yn ddig wrth i'r cyfryngau adrodd ar y 'stori'. Stori Mae dwy fodryb yn dweud wrtha i fod ei lun ar dudalen flaen y Daily Post heddiw, iddo hawlio eitem ar y Post Prynhawn a鈥檌 fod yn rhan o bytiau ffarwel newyddion y 麻豆社, ITV ac S4C a phe tawn i鈥檔 teipio ei enw ar y we mi welwn erthyglau, trydar a theyrngedau a, 鈥榞wranda, mi fydda鈥檔 ddoeth i ti beidio gweld.鈥� Dwi鈥檔 cogio cytuno ac yn cau drws y parlwr ar y cyd-adrodd 鈥榤eddwl amdana chdi ydan ni.鈥� Dwi鈥檔 dod o hyd i鈥檙 papur dan glustogau鈥檙 soffa, dwi鈥檔 rhoi batris yn y radio, dwi鈥檔 ail-gysylltu鈥檙 wi-fi ac yn rhoi plwg y teledu yn 么l yn y wal. Ac mae o yno efo鈥檙 tywydd sy鈥檔 staying dry with some sunny spells, mae o yno rhwng Miliband a Britain鈥檚 Got Talent, Patagonia a lluniau Kyffin Williams. Mae o鈥檔 ateb taclus terfynol yng nghanol cwestiynau which country has the least sexiest banknotes? a pha mor anodd ydi hi i brynu anrheg delfrydol i鈥檆h cymar? Mae o yno drws nesa i鈥檙 hysbys 70% off home, garden and fashion. Gohebwyr yn rhestru ffeithiau am gar a chorff ac anafiadau, a jest cyn cloi, maen nhw鈥檔 poeri brawddegau mewn lleisiau print m芒n ac yn annog 鈥榰nrhyw un oedd ar yr A487 rhwng 3 a 4 y bore i ddeialu 101.鈥� Am ennyd neithiwr, fe wnaethant bit茂o cyn cofio鈥檔 sydyn am y pitsa oedd yn y popdy, y dillad budur ar y landing, y word count a鈥檙 deadline. Ac uwch y meat feast pitsa roedden nhw eisoes yn byseddu鈥檙 stori nesaf.
Programme Website