Main content

Menna Elfyn Bardd Mis Mawrth Radio Cymru - Cerdd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched

Menna Elfyn Bardd Mis Mawrth Radio Cymru - Cerdd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched

Mawl i Ti 鈥� Shani*
( cyfaill a bardd)

Ni chawsom gwrdd yn y Gelli eleni
ond ar draws sgrin rhannu sgwrs
yn ddwys ac afieithus wnaethom,
mynwesu ein hangerdd at y byd
a rannwn--ar wah芒n --gyda鈥檙 hwyr.

A ddoe ddiwetha鈥� o Abu Dhabi鈥�
tithau dros dro yn dysgu yno,
daeth gair it droi yn gennad rad,
gan estyn nwydd fesul nwydd, o law
i law, yn rhoddion i鈥檙 merched alltud--
mewn lluestfa ymhell o鈥檜 mamwlad.

Parseli o bethau pitw a geisiwyd:
blwch trin ewinedd, brwsh gwallt,
sgarff newydd, llyfr gan ffrind鈥�
ond beth am y cais am becyn o greision?
A鈥檙 rhodd o anrheg anferthol鈥�
c锚s teithio? I un yn ei hunfan?

Gwenais wrth feddwl amdanat
fel asyn-cludo dynol er mai鈥檙 unig
gyffuriau yn dy feddiant oedd
dyheadau鈥檙 rhain wrth iddynt
ddianc o dranc eu dyddiau dreng,
yn gofyn am yr ambell foethyn--
ynghyd 芒鈥檙 鈥� c锚s鈥� i adael ar wib
er efallai i gyrraedd tir diffaith?

Gallaf weld tywyn dy w锚n
wrth i鈥檙 postmon dy groesholi,
鈥楶wy yw hon a hon鈥�? Fy chwaer!
Galwodd enw arall, a鈥檙 un ateb eto,
鈥楬i hefyd yw fy chwaer鈥�. A chyn hir
yn dy ddull tirion mabwysiadu cenedl
o chwiorydd wnest, y rheiny ar ffo,
ti nawr eu chwaer fawr, yn un o鈥檙 llwyth,
yn cario llwyth i鈥檙 sawl 鈥� un byd ddaeth i ben;
ti鈥檙 bydysawd, gyda bys a bawd yn croesi
ynysoedd cariad hyd at ymyl y lan.

Tishani, chwa wyt a鈥檓 chwaer o bell.
Fel dy fam o鈥檛h flaen yn achub babanod
ollyngwyd mewn gwteri yn Madras,
yr wyt tithau鈥檔 achub benywod, yn ddibendraw.
鈥楧of i fyth i鈥檞 nabod鈥� meddit. Eto
onid dyna yst芒d bardd, astudio byd
gyda rhywbeth mwy o lawer na geiriau.

*Gofynnwyd i Tishani Doshi i gario nwyddau bychain o geisiadau rhai o鈥檙 merched o Affganistan a lwyddodd i ddianc , dros dro i lochesfa yn Abu Dhabi. Bu ei mam Eira, Cymraes o Glwyd yn wreiddiol hefyd yn gwneud gwaith gwirfoddol o gasglu babanod a adawyd ar y strydoedd yn India am eu bod yn fenywod gan weithio gydag elusennau i roi cartrefi iddynt.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau