Episode details

Radio Cymru,6 mins
Menna Elfyn Bardd Mis Mawrth Radio Cymru - Cerdd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched
Bore CothiAvailable for over a year
Mawl i Ti 鈥� Shani* ( cyfaill a bardd) Ni chawsom gwrdd yn y Gelli eleni ond ar draws sgrin rhannu sgwrs yn ddwys ac afieithus wnaethom, mynwesu ein hangerdd at y byd a rannwn--ar wah芒n --gyda鈥檙 hwyr. A ddoe ddiwetha鈥� o Abu Dhabi鈥� tithau dros dro yn dysgu yno, daeth gair it droi yn gennad rad, gan estyn nwydd fesul nwydd, o law i law, yn rhoddion i鈥檙 merched alltud-- mewn lluestfa ymhell o鈥檜 mamwlad. Parseli o bethau pitw a geisiwyd: blwch trin ewinedd, brwsh gwallt, sgarff newydd, llyfr gan ffrind鈥� ond beth am y cais am becyn o greision? A鈥檙 rhodd o anrheg anferthol鈥� c锚s teithio? I un yn ei hunfan? Gwenais wrth feddwl amdanat fel asyn-cludo dynol er mai鈥檙 unig gyffuriau yn dy feddiant oedd dyheadau鈥檙 rhain wrth iddynt ddianc o dranc eu dyddiau dreng, yn gofyn am yr ambell foethyn-- ynghyd 芒鈥檙 鈥� c锚s鈥� i adael ar wib er efallai i gyrraedd tir diffaith? Gallaf weld tywyn dy w锚n wrth i鈥檙 postmon dy groesholi, 鈥楶wy yw hon a hon鈥�? Fy chwaer! Galwodd enw arall, a鈥檙 un ateb eto, 鈥楬i hefyd yw fy chwaer鈥�. A chyn hir yn dy ddull tirion mabwysiadu cenedl o chwiorydd wnest, y rheiny ar ffo, ti nawr eu chwaer fawr, yn un o鈥檙 llwyth, yn cario llwyth i鈥檙 sawl 鈥� un byd ddaeth i ben; ti鈥檙 bydysawd, gyda bys a bawd yn croesi ynysoedd cariad hyd at ymyl y lan. Tishani, chwa wyt a鈥檓 chwaer o bell. Fel dy fam o鈥檛h flaen yn achub babanod ollyngwyd mewn gwteri yn Madras, yr wyt tithau鈥檔 achub benywod, yn ddibendraw. 鈥楧of i fyth i鈥檞 nabod鈥� meddit. Eto onid dyna yst芒d bardd, astudio byd gyda rhywbeth mwy o lawer na geiriau. *Gofynnwyd i Tishani Doshi i gario nwyddau bychain o geisiadau rhai o鈥檙 merched o Affganistan a lwyddodd i ddianc , dros dro i lochesfa yn Abu Dhabi. Bu ei mam Eira, Cymraes o Glwyd yn wreiddiol hefyd yn gwneud gwaith gwirfoddol o gasglu babanod a adawyd ar y strydoedd yn India am eu bod yn fenywod gan weithio gydag elusennau i roi cartrefi iddynt.
Programme Website