麻豆社

Gwyliwch y Gofod

C2 yn Cyflwyno

Pob wythnos ar raglen Magi Dodd mae Robin Owain Jones yn eich cyflwyno i fand 'Gwyliwch y Gofod' - sef band newydd sydd 芒 thudalen a chaneuon Cymraeg ar MySpace.

Artist yr Wythnos:

Deadly Saith

Band newydd arbennig o gyffrous o ardal Caerfyrddin. 7 aelod yn cyfansoddi a recordio caneuon sydd yn gymysgedd o ska, roc, seicadelia, cerddoriaeth y byd, drwm a bas... Wedi cael adolygiadau gwych am eu perfformiadau byw eisioes, mae nhw'n fand sydd werth cadw llygaid arnyn nhw.

Mae yn cynnig cyfle i grwpiau ac artistiaid newydd ac yn gyfle i chi glywed y bandiau newydd gorau.

Dyma holl fandiau eraill 'Gwyliwch y Gofod' C2:

A Month Sunday

Pedwar o gyn-fyfyrwyr cerddoriaeth yng Ngholeg Menai, Bangor - caneuon roc-ysgafn, melodig gyda alawon bachog.

Adrift

Band ifanc o Sir Gar, sydd a chaneuon o naws eitha gwahanol ar eu tudalen myspace. Mae rhagor o stwff ar y ffordd yn fuan, felly cadwch olwg am Adrift yn 2009.

Aeron

Wyn Evans o Aberaeron yw Aeron ac mae'n cyfansoddi cerddoriaeth amgylchynol (ambient) offerynnol, ac yn ceisio peidio cael ei ddylanwadu gan gerddoriaeth pobl eraill, ond yn hytrach gan natur a'i brofiadau personol.

Alien Square

Band sy'n cymharu eu swn i fandiau fel Goldfrapp a Jefferson Airplane, mae nhw'n disgrifio eu swn fel 'roc efo synths' - ond yn awyddus i bwysleisio nad Van Halen neu Europe mohonynt! Mae'r trac 'Yno' yn enwedig, yn arbennig o dda - dechrau'n acwstig, melodig, ac yn tyfu mewn swn i uchafbwynt roc gwyllt erbyn y diwedd.

Alun Battrick

Efallai fod rhai ohonoch chi yn cofio'r band 'Enaid Coll' noll yn y 90au? Os ddim, peidiwch a phoeni, ond roedd Alun Battrick yn aelod o'r band hwnnw, ac mae bellach yn ei 么l fel artist unigol. Caneuon acwstig neis, Cwsg EP ar y ffordd, ac mae'n gobeithio gigio yn fuan.

Andrew ap Glyn

Prosiect unigol Andrew ap Glyn o Fanceinion (ond sy'n wreiddiol o Carmel, Caernarfon), sy'n cynnwys John Cale, Brian Wilson, a Neil Young fel rhai o'i ddylanwadau.

Arachnakitty

Band newydd Ffion Wyn Davies (gynt o T.N.T) ond peidiwch a disgwyl yr un math o ganeuon - mae Arachnakitty yn lot mwy 'rocky', ac yn rhywbeth ffres iawn i'r s卯n yma yng Nghymru.

Aran F么n

Cerddor ifanc o ardal Llanrwst, sydd wedi ei ddylanwadu gan artistiaid fel Dan Amor ac Alun Tan Lan. Ar ei dudalen myspace ar hyn o bryd, mae un g芒n wreiddiol - 'Carafan', a fersiwn Aran o'r g芒n 'Un Rheswm Da' gan Dan Amor. Caneuon addawol iawn gan obeithio cael llawer mwy yn y dyfodol.

Arddun ar y Mantell

Band ifanc o Ysgol Dyffryn Ardudwy, Harlech. Nest, Mike, Aneirin & Ieuan yw'r aelodau a mi gafo nhw'r fraint o fod yn rhan o daith Jyncadelic Gai Toms! Swn acwstig sydd i'r band efo ukelele a bongos wedi ei luchio mewn i'r potes! Mi ddaru nhw fynd trwy'r geiriadur i gael yr enw!!

Attic Find

Band 'zouk rock' cymharol newydd o ardal Bangor a Chaernarfon, gyda rhai o'r aelodau yn gyn-aelodau o'r band 'Hitchcock'.

Attuatori

Band roc o Ddyffryn Nantlle wnaeth ffurfio ddechrau 2007, sydd hefo dylanwadau amrywiol o Iron Maiden i Edward H!

Becca White

Cantores o ardal Wrecsam yw Becca White, sydd wedi arwyddo i label StiwdioJG - sef stabal John Grindell. Mae ei sengl 'Disgo' allan yn fuan, ac yn g芒n techno / dawns berffaith.

Bets

Proffeil Bets (neu Betsan os am fod yn ffurfiol) - cyn aelod o'r Genod Droog, Johnny Panic, a Daniel Lloyd a Mr Pinc. Mae ganddi ganeuon gan rai o'r bandiau mae wedi cyd-weithio a nhw, a fersiwn wych o'r glasur 'Ar Lan y Mor'.

Broga

Band newydd un o gyn-aelodau Supergene - caneuon acwstig-melodig gyda elfennau o gerddoriaeth dawns-arbrofol, sy'n dangos dylanwadau y ddau brif-aelod.

Camel Club

Band 9 aelod (!) newydd o ardal Llangefni, Sir F么n, sydd yn disgrifio eu caneuon fel cyfuniad o arddulliau gwahanol, ac yn ymdebygu i swn The Pogues. Am fod yn gigio arhyddhau EP newydd dros haf 2009, felly gwylich am y Camel Club yn eich ardal chi, ac efallai y cewch chi ymuno a'r clwb.

Candelas

Pedwar o gyd-ddisgyblion yn Ysgol y Berwyn, y Bala, sydd wedi eu dylanwadu gan fandiau fel Gola Ola, Y Rei, a Kings Of Leon... a sydd yn swnio fel bod ganddynt yr un egni a naws i rai o'u caneuon a Creision Hud cynnar. Da, da iawn.

Cartilag

Band pync-roc trwm, sy'n swnio'n flin iawn, yn galed iawn, ac yn uchel iawn!

Castles

Dau frawd o Lanrug yw Castles - Dion a Cynyr Hamer, sydd wedi eu dylanwadu gan fandiau fel y Super Furry Animals a The Pixies. Disgwyliwch sengl ac EP gan y band yn fuan.

Chwain

Prosiect unigol Meic P, gynt o Winabego ond sydd bellach yn chwarae hefo'r Ffyrc.

Chwarter Call

Band o ddisgyblion y 6ed dosbarth yn Ysgol Gyfun Llangefni, sydd yn rhestru Hendrix ymysg eu dylanwadau, a gyda chaneuon bachog Pwsi Meri Mew-aidd.

Chwildrop

Chwildrop yw prosiect arbrofil Robin Street a Rhydian Meilir - aelodau o Salero. Miwsig ymlaciol, hafaidd, sy'n swnio fel 'unicorn yn torri gwynt' (yn eu hol nhw)!

Cinetica

Band o ardal Caernarfon, sydd ond efo'u gilydd ers diwedd 2007, ond sydd eisioes wedi gadael cryn argraff ar label recordio nid an-enwog gyda'u caneuon hwyliog, bachog.

Cloud Formations

Prosiect electronic-amgen Darren Owen o Lanberis. Mae ei ganeuon eisioes wedi cael eu chwarae ar Radio 1, ac wedi cael 'demo yr wythnos' ar raglen Adam Walton, Radio Wales - a bellach mae'n artist Gwyliwch y Gofod ar C2.

Colorama

Band Carwyn Ellis, o Fenllech yn wreiddiol, ond sydd bellach yn byw yn Llundain ac yn aelod o fand Edwyn Collins. Mae hefyd wedi cefnogi Van Morrison, Paul Weller, Neil Young a'r Stereophnics, ac mae ei ganeuon yn gwbwl, gwbwl wych.

Concyrs

Does wybod pwy yw'r 'Concyrs'! Does dim manylion ar eu tudalen myspace - a tydyn nhw heb logio-mewn ers dros 8 mis... y cyfan alla'i ddweud am y band yw fod eu hip-hop / gwerin-roc dadleuol yn fachog ac yn heintus!

Conductors

Roc amgen ffres o Gaerfyrddin sy'n mynd i'ch taro gan y Conductors - band newydd Aled Thomas, sydd hefyd yn gyfrifol am y prosiect 'Broga' (un o gyn-fandiau Gwyliwch y Gofod).

Convoi Exceptionnel

Hip-hop arbrofol amrwd o Aberystwyth a Glasgow. Mae s卯 fod sengl ar y ffordd ar label Ciwdod cyn diwedd y flwyddyn, felly cadwch eich clustiau ar agor am lawer mwy o Convoi Exceptionnel.

Crash. Disco!

Prosiect Gruff Jones o Fangor sy'n cyfansoddi cerddoriaeth electronig. Er nad yw wedi ei ddylanwadu gan gan yn benodol, mae'n hoff iawn o gerddoriaeth bandiau electronig fel Justice a Royksopp. Mae'n gobeithio cael y cyfle i gyd-weithio efo cerddorion eraill yn y dyfodol.

Crazy Mountain People

Criw o ffrindiau o ardal Penmachno wnaeth ffurfio band ddechrau haf 2009 ar 么l i un o'r aelodau weld Yr ods yn perfformio yng Ngwyl Glastonbury a meddwl 'wow - dwi isho gneud hynna'! Argraffiadau cyntaf addawol iawn...

Creision Hud

Be mae dewin yn ei fwyta i frecwast? Creision Hud! Indie-roc, a thiwns bach neis.

Cyrion

Electronica amgen gan Rhodri Owen - aelod o Yucatan. Mae'n gweithio ar set byw gyda drymiwr a basydd ar hyn o bryd, felly disgwyliwch weld Cyrion yn fyw yn fuan.

Cwcw

Prosiect unigol Hefin Mabon Karadog - brawd neb llai na Nei Karadog (y Diwygiad, a'r Genod Droog-gynt) yw Cwcw, gyda chaneuon electronig amgen prydferth. Bydd Cwcw yn recriwtio rhagor aelodau dros y misoedd nesaf, ac yn gobeithio cychwyn gigio wedi hynny, felly Gwyliwch y Gofod!

Danblagroyd

Mae aelodau'r band o Wrecsam wedi bod efo'u gilydd ers sbel, ac er taw ond yn ddiweddar y newidion nhw eu henw i Danblagroyd, maen't yn brysur wneud enw iddynt eu hunain.

Dail Gwair

Band eithaf acwstig eu naws, wnaeth ffurfio yn ardal Bala yn y nawdegau, ond sydd wedi ail-gydio ynddi wedi peth newid aelodau.

Danielle Lewis

Cantores-gyfansoddwraig ifanc o Gei-Newydd sydd wedi bod yn cyfansoddi a recordio caneuon ers rhyw 5 mlynedd. Wedi ei dylanwadu gan artistiaid canu-gwlad Americanaidd fel Taylor Swift a Dolly Parton, bydd gan Danielle albym allan yn fuan.

De Mask

Band roc-pync o Sir F么n, oedd yn gystadleuwyr ym Mrwydr y Bandiau C2 / Mentrau Iaith Cymru 2006. Nemo yw enw'r gitarydd... MAE NHW WEDI EI FFEINDIO FO!

Deadly Saith

Band newydd arbennig o gyffrous o ardal Caerfyrddin. 7 aelod yn cyfansoddi a recordio caneuon sydd yn gymysgedd o ska, roc, seicadelia, cerddoriaeth y byd, drwm a bas... Wedi cael adolygiadau gwych am eu perfformiadau byw eisioes, mae nhw'n fand sydd werth cadw llygaid arnyn nhw.

Digon Teg

Deuawd o ogledd-orllewin Cymru, sy'n cyfansoddi a recordio caneuon acwstig wedi eu dylanwadu gan artistiaid fel Newton Faulkner. Mae'r gan 'Gwena' yn berffaith ar gyfer yr haf, ac alla'i ddim disgwyl i glywed mwy gan y ddau yma.

Dileu

Prosiect newydd Owain Roberts (Messner) sydd yn canolbwyntio fwy ar gerddoriaeth electronig, ac am fod yn ail-gymysgu traciau Cymraeg gan artistiaid fel The Gentle Good a Brigyn.

Dim Mynedd

Band ifanc o Ddolgellau, ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Roc a Phop Eisteddfod yr Urdd, Llandudno 2008.

Dreunen Wen

Un arall o fandiau newydd Penllyn, sydd ddim ond hefo'u gilyd ers dechrau 2007, ond a chasgliad helaeth o ganeuon eisioes. Alun Evans a Dafydd 'NAR' Eurgain yw'r aelodau.

Dybl-L

Hip-hop o Dalysarn, ac mae Huw Stephens wedi bod yn chwarae'r trac 'Y Cam Nesaf' yn rheolaidd ers iddynt fod ar 'Gwyliwch y Gofod'.

El Mondo

Prosiect un person ydi El Mondo ar hyn o bryd, yn cyfansoddi caneuon wedi eu dylanwadu gan fandiau fel y Super Furry Animals, MGMT a'r Acid Casuals - ond mae'n gobeithio cychwyn gigio efo band llawn yn y flwyddyn newydd. Caneuon da sy'n gychwyn addawol i yrfa gerddorol El Mondo.

El Parisa

Artist newydd hynod, hynod o gyffrous gyda'i chaneuon bachog, gwahanol. Cafodd ei gwobrwyo am 'y gan fwyaf unigryw' yng nghystadleuaeth Can i Gymru 2009, ac mae wrthi yn recordio rhagor o draciau ar hyn o bryd.

Endaf Presley

Prosiect acwstic-pop Endaf o Kentucky AFC. Rhowch o 'mlaen, gwisgwch eich slipars, ac ymlaciwch.

Fan Alffresco

Band sydd wedi eu dylanwadu gan Derwyddon Dr Gonzo, ac maen't yn sicr yn dangos yr un potensial a'r ffyncwyr egniol yn eu dyddiau cynnar. Eisoes wedi dod yn 3ydd yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B 2009, bydd sesiwn acwstig i'w clywed ganddyn nhw ar C2 yn fuan.

Gildas

Prosiect newydd Arwel Lloyd, sydd hefyd yn chwarae'r gitar i Al Lewis. Caneuon acwstic, gyda gitar, llais a banjo - ond mae'n bosib y bydd cerddordion eraill yn ymuno ag ef yn y dyfodol.

Ginge and Celloboi

Rhywbeth cwbwl newydd i'r s卯n gerddoriaeth yng Nghymru, gyda cherddoraeth 'bluegrass' ffantastig. Cafodd y band eu henw wedi i ddyn (meddw) gyfeirio atyn nhw fel hynny mewn gig - mae gan Sion wallt ychydig yn gochlyd, ac mae Matt yn chware'r bas-dwbl!

Gloria a'r Creions Piws

Band o Benllyn, gyda Iwan 'Cowbois' ar y drymiau - dim ond un g芒n - Sion Porn - sydd ar eu myspace, ond mae'n hynod, hynod o catchy.

G.o.M.

Un arall o fandiau ifanc ardal Blaenau sy'n rhan o stabl y Gwallgofiaid. Beth yw ystyr G.o.M.? Dyda ni ddim yn gwybod... a dydi'r band ddim chwaith. Roc a rol!

Gwiber

Band o ffrindiau wnaeth ffurfio tra yn yr ysgol yn Llanfaircaereinion, ond sydd bellach mewn gwahanol brifysgolion. Mae'n wedi eu dylanwadu gan Queens Of The Stone Age, a gwych yw cael band o ddyfnderoedd Powys!

Gwirioneddol

Band 3-aelod o Benrhyndeudraeth, sy'n gymysgedd o ska/roc/reggae. Stwff da.

Hafaliadau

Bu 'Hafaliadau' yn fand 'Gwyliwch y Gofod' dan eu enw blaenorol - 'Yr Hogyn Glas'. Gareth Pierce a Matthew Hall, o Bwllheli yn wreiddiol, yw Yr Hogyn Glas. Caneuon acwstig, melodig... hyfryd!

Hay Barns On Fire

Band 3 aelod o ardal Caerfyrddin, wnaeth benderfynu ar eu henw fel teyrnged i'r gerddoriaeth gwlad oedd eu rhieni yn ei chwarae'n gyson pan oedd yr aelodau yn ieuengach!

Helyntion Jos y Ficar

Dyma'r fand ifanc all helpu i lenwi'r bwlch enfawr sydd wedi ei adael ar 么l gan Derwyddon Dr Gonzo. Ska-ffync hwyliog a geiriau ffraeth a doniol - yn siwr o blesio cynulleidfaoedd led-led Cymru, a fydd hi'n fawr o dro nes fydd pawb yn dechrau pregethu am Helyntion Jos y Ficar (sori, odd rhaid)!

Heretica

Un o fandiau Y Gwallgofiaid, daw Heretica o ardal Porthmadog, a daethant at eu gilydd i geisio gwneud band i ddod a thipyn mwy o roc caled i mewn i'r Sin Roc Gymraeg.

Hoax MC

Tony Robinson o Fethesda ydi Hoax MC - artist Hip-Hop, sy'n cael ei ysbrydoliaeth i ysgrifennu ei ganeuon o amrywiaeth o bethau yn amrywio o'r diffyg tai a swyddi i bobl leol yng Nghymru, i hanes y chwarel ym Methesda. Geiriau gwych dros beats cryf.

Hogyn Da

Prosoect unigol Ifan Dafydd o'r band Derwyddon Dr Gonzo. Band un dyn hefo gitar-acwstig a llais, a chydig o accordion a stwff arall.

Howl Griff

Wedi cyrraedd rownd derfynol C芒n i Gymru yn 2007, mae Howl Griff yn disgrifio'i hun fel cerddor, syrffiwr a pherson sy'n cadw gwenyn. Mae ganddo fand llawn hefyd, ac yn ystyried Clwb P锚l-droed Aberystwyth yn un o ddylanwadau'r band!

Hywel Pitts

Prosiect unigol cyn-brif leisydd y band 'Dirty Words' - Hywel Pitts. Caneuon acwstig gyda alwon cryf, fydd o bosib yn cael eu datblygu ar gyfer band llawn yn y dyfodol. Mae Hywel yn bwriadu gigio fel artist unigol a chyda band llawn yn fuan, felly disgwyliwch glywed lot mwy ganddo.

Iglw

Band pedwar aelod o ardal Caerfyrddin, sy'n disgrifio eu harddull fel 'indie' ac yn mynd i fod yn rhyddhau eu EP cyntaf ar label RASP dros yr haf.

Jack & The Hearts

Steffan Davies a Liam Flynn yw Jack & The Hearts. Caneuon acwstig, melodig gyda alawon perffaith - disgwyliwch glywed llawer mwy gan y band yma!

JJ Sneed

Mae cerddoriaeth electroneg-amgen JJ Sneed wedi cael cryn sylw yn y bythefnos ers iddo roi'r trac cyntaf ar ei dudalen myspace, ac mae eisoes yn gweithio ar ei albwm gyntaf fydd allan ar label Kissan. Cerddor electroneg cyffrous arall sy'n ymuno a'r chwyldro!

Johnny Horizontal

Band o Ddinbych sy'n gwneud cerddoriaeth offerynnol hyfryd, gyda'r gobaith o "dasgu heulwen yn n么l dros eu mamdref". Eu neges yw: "Dewch ymaith i gael hwyl, i ddarllen, i grio, i wrando, i wylio, i chwerthin ac i ddangos eich cefnogaeth."

Just Like Frank

Un arall o fandiau ifanc, addawol y brifddinas, sydd eisioes wedi gigio eitha tipyn, ond ddim ond newydd recordio eu caneuon cyntaf a'u rhoi ar eu tudalen.

Karac

Band roc-ysgafn o Gaernarfon, gyda Steve 'Pablo' Jones - cyn aelod o'r grwp 'Y Profiad' ar y gitar.

Kingbee

Kingbee yw Tom Hume, sydd newydd raddio o'r brifysgol ym Mrighton, ac bellach yn 么l yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd... ac yn cyfansoddi caneuon bach bachog.

Kit Williams

Merch ifanc o Borthmadog yn wreiddiol, ond sydd bellach yn astudio cerdd a drama yn y brifysgol yn Lerpwl. Caneuon acwstig-amgen, mae'n braf cael rhywfaint o 'girl power' nol ar y s卯n!

Kommancherros

Band o Langefni, Sir F么n sy'n rhestru y Rolling Stones a Jimi Hendrix ymysg eu dylanwadau. Caneuon hwyliog, ffraethineb yn y geiriau, a chaneuon o wahanol arddulliau - rhywbeth at ddant pawb.

Lacwna

Band ifanc, hynod o addawol o Langefni, Sir F么n - sydd yn prysur ddatblygu i fod y 'Blaenau Newydd' gyda chwpwl o fandiau newydd cyffrous wedi ffurfio yno'n ddiweddar. Disgwyliwch glywed llawer mwy gan Lacwna yn ystod 2009.

Llwch y Gornel

Prosiect Rhys Martin o Plant Duw. Aelodau'r band newydd yn cynnwys Aeron Owain, Rhiannon Jones, Gwenllian Tudur a Derwyn McCloughgan.

Maconda

Un dyn o'r Wirral yw Maconda, ond mae Arfon Williams yn Gymro Cymraeg, ac yn cyfansoddi traciau electronica / trance gwych. Rhywbeth cwbwl wahanol i Gwyliwch y Gofod!

Mark Back

Canwr-gyfansoddwr acwstig o Gaernarfon, sydd wedi cyd-weithio yn y gorffennol efo aelodau un arall o gyn-fandiau Gwyliwch y Gofod - A Month Sunday.

Mark Whitby

Artist o Fae Colwyn sy'n cyfansoddi caneuon yn llawn egni, melodiau bachog a digon o gitars. Yn cael ei ddylanwadu gan artistiaid amrywiol - o'r Beatles i Calvin Harris, o Cowbois Rhos Botwnnog i'r Genod Droog - dyma dipyn o roc pop ar ei orau.

Martin John Byast

Canwr a chyfansoddwr 17 oed o Amlwch, sydd wedi bod yn chwarae gitar ers yn 6 oed. Mae Martin newydd rhyddhau EP The Passengers Journey.

Merched Mecca

Band ifanc o Gastell Nedd, gyrhaeddodd rownd-derfynol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru 2006.

Mesa

Band arbrofol sy'n cyfansoddi stwff acwstig-melodig tebyg i Yucatan.

Messner

Messner yw Owain Roberts o Fangor, sy'n chwarae cerddoriaeth acwstig-amgen.

Miriam Williams

Merch o lanelli, sydd wedi ei dylanwadu gan gerddoriaeth roc yr 80au, ac yn dweud "nad yw e'n gan heb unawd gitar!"

Monte Cassino

Band ifanc o ardal yr Wyddgrug, wnaeth gyrraedd rownd gyn-derfynol ByB MIC/C2 Radio Cymru 2007.

Munk and the Pilgrims

Yn 么l myspace y band, Munk (neu Matt Rhys Jones i roi ei enw llawn) yw'r aelod parhaol, ac mae'r pilgrims yn mynd a dod o fewn yr angen. Caneuon Cymraeg a Saesneg wedi eu dylanwadu gan y Manics, New Order, a Joy Division ymysg eraill - gwrandewch, mae nhw'n wirioneddol wych.

Nemesia

Y band yw Dylan, Alz a Kriz o Ynys M么n. Roedden nhw arfer mynd o dan yr enw "The Unknowns" cyn newid i Nemesia (sy'n flodyn gyda llaw!). Ma nhw wedi eu arwyddo i label Hitbycar Records Ltd.

Nia Morgan

Artist unigol sy'n cyfansooddi a perfformio caneuon acwstic hyfryd. Mae'n byw ym Manceinion, ond dychwelyd yn rheolaidd i Gymru i recordio yn Stiwdio Nant y Benglog efo John Lawrence.

No Carona

Ffurfiodd y band yma o Fangor wedi i 'Tonfedd Rhyfedd' chwalu, i Sion adael ei fand 'Gang Guevara'... ac i Cynon dod allan o'r cwpwrdd.

Nos Sadwrn bach

Gr诺p o Gaerdydd, maen' nhw'n chwarae "roc a rol Cymraeg, sy'n eithaf ysgafn" ac yn llawn o solos llyfiog, rhythmau amrywiol, lleisiau byddarol, riffiau bas a churiadau cyson! Mae'n werth clywed y cyfuniad...

Ookami

Yr artist diweddaraf i ymuno yn chwyldro electroneg cerddoriaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. 16 oed yw Rhodri Parry o Bontypridd, ac mae ei ganeuon yn dangos aeddfedrwydd ymhell y tu hwnt i'w oedran.

Plant Bach Annifyr

Prosiect Blues/Roc newydd dau fyfyriwr o Aberystwyth sy'n cael eu hadnabod o dan yr enwau PLENTYN 1 a PLENTYN A yn unig! Mae'r gan nadoligaidd yn shwr o wneud I chi chwerthin!

Plyci

Plyci yw Gerallt Ruggiero o Rhyl / Caerdydd, sy'n chwarae stwff electronica. Bydd sengl gyntaf Plyci allan ar label Ciwdod ar Orffennaf 16.

Pretty Places

Band tri aelod o Lanfairpwll, sydd wedi bod yn gigio'n galed yn ardal Bangor a Chaernarfon dros y misoedd diwethaf - a chael sylw cenedlaethol ar Radio Cymru, Radio Wales, a hefyd ar 麻豆社 6 Music. Indie-pop hwyliog a hafaidd, mae Pretty Places yn gwneud enw iddyn nhw eu hunain ar union amser cywir y flwyddyn!

Rafters

Band roc meddal o Langefni - Huw, Iago, Gerallt, Trystan a Sion. Wedi bod yn gneud cyfars ond yn canolbwyntio nawr ar gyfansoddi stwff eu hunain.

Random Elbow Pain

Un o gystadleuwyr Brwydr y Bandiau C2 / Mentrau Iaith Cymru 2007 - band ska-roc o Gaerdydd. Gwyliwch y gofod yn sicr - maen't yn wych!

Rebel

Aled Morris, sy'n wreiddiol o Laneilian ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, yw Rebel. Wedi ei ddylanwadu gan bobl megis Pete Yorn, a'r Foo Fighters, mae Rebel yn gobeithio recordio lot mwy o ganeuon yn fuan - ac os ydyn nhw hanner cystal a 'Hunanol' mi fyddan nhw yn arbennig o dda.

Rhodri Sion

Cerddor o Dalysarn, Gwynedd, sy'n cyfansoddi caneuon yn amrywio o rai hip-hop, i rai gitar a llais, i rai offerynol.

Richard Owen

Canwr-gyfansoddwr o Langefni, sydd wedi ei ddylanwadu gan fandiau ac artistiaid fel Mim Twm Llai, Mr Huw a Cofi Bach a Tew Shady. Mae'n gobeithio rhyddhau ei EP cyntaf yn fuan, felly disgwyliwch glywed mwy gan Richard Owen yn y dyfodol.

Rosie Probert

Erin Mathias o'r Preseli yw'r brens tu ol i Rosie Probert, ac mae ei chaneuon pop-electronig-amgen yn rhywbeth ffresh iawn i'r sin gerddoriaeth yng Nghymru.

Rufus Musafa

Yn dod o Bontypridd, mae Rufus Musafa yn cymysgu drwm a bass, jyngl, reggae a soul i greu synau diddorol a gwreiddiol iawn.

Segur

Roc-seicadelic, ac mae'r drymiwr - Dafydd Faxhall - yn aelod o un arall o fandiau Gwyliwch y Gofod - Y Promatics.

Sesh Llefrith

Prosiect Gwilym Rhys (o'r Bandana) a Tom ap Dan, gafodd eu henw wedi iddyn nhw dynnu dau air allan o het ar hap. Caneuon bachog, hwyliog, ac mae'r potensial yn amlwg yn y recordiad demo cyntaf sydd wedi ei wneud gan y band.

Seth Rimshot

Prosiect unigol Rhydian Meilir o Fachynlleth, sydd hefyd yn aelod o Salero, Hufen Ia Poeth a Chwildrop. Caneuon sy'n hawdd gwrando arnyn nhw, gyda harmoniau cryf, a geiriau gyda neges ynddyn nhw.

Sgidie Glas

Band 'roc modern' 4 aelod o Geredigion yw Sgidie Glas, sy'n rhestru bandiau fel Oasis, Kings of Leon, Vampire Weekend, a'r Arctic Monkeys ymysg eu dylanwadau.

Sglyfgerdd

Cerddoriaeth electronig-ffync gyda digon o hiwmor yn yr hafaliad hefyd. Caneuon hawdd gwrando arnyn nhw, wedi eu hysgrifennu am bethau mor amrwywiol a Sam Tan a Sali Mali, Sir Fred Goodwin, a siop degannau nid anenwog. Sicr werth gwrando mwy, a chadw llygaid ar Sglyfgerdd yn y dyfodol.

Short Man Syndrome

Prosiect Anthony Hammond o Aberystwyth yn wreiddiol, ond sydd bellach yn byw yn Nottingham. Bydd y band yn cychwyn gigio yn fuan, felly gwyliwch y gofod hwn...!

Siddi

Band 'gwerin modern' eu harddull, gyda geiriau'r caneuon yn adrodd stori Tylwyth Teg o ardal Llanuwchllyn. Caneuon arbennig o hyfryd, ac mae son fod albym gysyniadol ar y gweill. Mi ydwi'n edrych ymlaen i ddilyn datblygiad Siddi ac yn gobeithio gweld y band yn dilyn llwyddiant bandiau ac artistiaid 'gwerin modern' eraill Cymru fel 9 Bach a Huw M.

Simon Dyda

Artist unigol wnaeth dreulio llawer o'r 90au yn bysgio o amgylch Ewrop, ond sydd wedi bod yn gymharol ddistaw yma yng Nghymru cyn ac ers hynny. Caneuon acwstig neis, gyda ychydig o fflamenco-pop wedi ei luchio mewn i'r gymysgedd!

Sion Russell Jones

Artist unigol yr Sion Russell Jones o Gaerdydd, gyda chaneuon acwstig arbennig o dda - ac mae'n lluchio ychydig o wallgofrwydd i mewn i'r caneuon efo llwyau ac ati!

Slapar

Roc-indie gan Dan, Elidir, Meredydd, Paul, Arawn a Stewie o Gaernarfon. 2008 fydd y flwyddyn i'r Slapars!

Sophie Taylor Moore

Merch ifanc o'r Barri, sydd o gefnir Gwyddelig-Ffrangeg-Sbaeneg-Gwyddelig-Cymreig! Clywir elfennau o swn y gwledydd hyn yn ei chaneuon, ac mae wedi ei dylanwadu gan gerddoriaeth Motown.

Starsci

Band roc-pop o Rydaman, sy'n gweithio ar eu albym cyntaf fydd allan yn fuan ar label Rasp. Mae'r prif ganwr - Gareth Jewell - yn gyn aelod o'r bach-fand Max-N.

Steady Eddy Steady

Cerddor sydd bellach yn byw yn Llundain, ond yn parhau i gyfansoddi caneuon Cymraeg, yn ogystal a rhai Saesneg. Artist Gwyliwch y Gofod cyffrous, gyda'i ganeuon Mr Huw-aidd.

Stilletoes

罢丑谤卯-辫卯蝉 pync o Benllyn, gyda agwedd yn llifo dros yr ochrau! Dywedodd Rhys Mwyn mai 'Efa (y prif-leisydd) ydi'r unig berfformiwr allan yna yn y SRG'. Gallwch glywed eu Sesiwn C2 ddiweddar trwy

Stone Free

Band ifanc o ysgol Penweddig, Aberystwyth. Mae pawb yn ymwybodol o 'bedigree' cerddorol Penweddig... a'i Stone Free fydd y Radio Luxembourg neu'r Poppies nesaf?

Terminal 24

Band o Gaernarfon, wnaeth ffurfio nol yn 2004, ond sydd wedi cymeryd seibiant o dros dair mlynedd, ac wedi dod nol yn ystod y misoedd nesaf gyda chaneuon newydd, ac awch i fynd amdani.

Them Lovely Boys

Band o Gaerdydd wnaeth ffurffio yn ystod 2009, sydd yn disgrifio eu harddull fel rhywbeth tebyg i Johnny Cash - Springsteen cynnar - Arcade Fire a Beirut. Un peth sy'n sicr yw fod yma fand Gwyliwch y Gofod arbennig o gyffrous, sydd a chynlluniau mawr ar gyfer 2010.

The Stage Names

Eddie Jones o Langefni a Matt Sayer o Gaernarfon yw 'The Stage Names' - gyda chymorth rhai pobl fel Owain Ginsberg (gynt o'r Heights) ar ambell i gan. Caneuon hafaidd, indie-roc ffresh - werth eu clywed.

Three Wise Monkeys

Band sy'n 'gweld dim drygioni, cywed dim drygioni, a siarad dim drygioni'... ond yn cyfansoddi a recordio caneuon gwych. Er fod yr aelodau yn gweithio ar brosiectau eraill yn ogystal, maen't yn bwriadu recordio rhagor yn fuan - ac mi ydwi'n edrych ymlaen yn arw. Caneuon acwstig, melodig hyfryd, sydd yn mynnu gwrandawiad pellach.

Tom Winfield

Artist unigol o Lantrisant, wnaeth ddefnyddio'r gerdd 'Er Cof Am Kelly' gan Menna Elfyn fel geiriau i'r gan. Gallwch gysylltu ag ef i gael CD am 拢2...

Trwbador

Deuawd o Sir Gaerfyrddin, sy'n disgrifio eu cerddoriaeth fel 'pop post-modern' neu 'folktronica' ac mae elfennau o artistiaid fel Tunng a Gorkys ymysg eu dylanwadau. Eisoes wedi cael peth sylw yn genedalethol, mae'r heip am Trwbador yn cynyddu.

Trydan

Heb os, mae Trydan yn un o fandiau ifanc, newydd mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd. Caneuon cyfoes, bachog sydd a'u swn yn atgoffa rhywyn o fandiau fel 'Y Promatics' neu dinc o swn 'Y Violas' mewn mannau.

Twmffat

Band neu brosiect newydd Ceri Cunnington, sef prif-leisydd y band 'Anweledig'. Mae Ceri wedi bod yn ddieithryn i'r sin gerddoriaeth yng Nghymru ers rhai blynyddoedd bellach, ond mae yn ei 么l efo bang ar ffurf 'Twmffat' - un o enwau mawr y s卯n yn y flwyddyn neu ddwy nesaf o bosib?

The Cicatas

Band newydd Noel, gynt o Gabrielle 25 a'i wraig, Beth. Mae albym gyntaf y band ar gael i'w lawrlwytho am ddim o'u myspace!

The Pennysows

Band o Aberdaugleddau, sydd a un gan gymraeg ar eu tudalen myspace - 'Dych Chi'n Nabod Dewi Rhys Jones' - can am athro Cymraeg Macky o'r band, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers deunaw mis.

The Violas

Criw o ffrindiau sydd yn byw yng Nghaerdydd yw The Violas, gyda chaneuon amrwd, ond arbennig o addawol wedi eu dylanwadu gan fandiau fel The Coral a'r Super Furries, ac sy'n fy atgoffa o stwff cynnar Mozz (sef cyn enw The Poppies).

The Zimmermans

Band ifanc o Lantrisant, sydd efo potensial enfawr i gael dyfodol disglair iawn, gyda'u caneuon hyfryd, Radio Luxembourg-aidd eu naws.

Untraceble Ballistics

Band o Aberystwyth - sydd a dau aelod ar hyn o bryd, ond yn y broses o benodi drymiwr newydd. Wedi eu dylanwadu gan fandiau fel y Stilletoes, Lynyrd Skynyrd, Jack Johnson a'r Red Hot Chilli Peppers, mae'r band yn gobeithio parhau i gyfansoddi, recordio a gigio dros y misoedd nesaf.

Wuw

Artist unigol yw Wuw, a'r person tu 么l iddo ydi Phil Jones - ond yn ogystal a chyfansoddi a recordio ar ei ben eu hun, mae hefyd yn DJio ac yn gweithio gyda artistiaid eraill. Cerddoriaeth breakbeat a drwm a bas arbrofol gwerth gwrando arno gwech chi gan Wuw - ewch i wrando!

Wyn Williams

Mae Wyn Williams hefyd yn cyfansoddi, recordio a pherfformio dan yr enw Dafydd ap Llwyd, ac Monkey Sea Monkey Do, ond dan yr enw Wyn Williams ymddangosodd o yn slot Gwyliwch y Gofod - ac fe chwaraewyd y gan 'O Fri' wedi ei ail-gymysgu gan DubRobots. Bydd y g芒n, sydd a dylanwadau 'World Music' ar gael i'w lawrlwytho ar Awst 3ydd 2009.

Y Betti Galws

Band sydd yn bwriadu 'rhoi Merthur Tudful ar fap yr SRG' ac yn disgrifio eu cerddoriaeth fel 'croesffrwythloniad o PJ Harver a Fflur Dafydd'. Os nad yw hynny yn ddigon i godi'ch chwilfrydedd, yna does wybod be wnaiff!

Y C锚r

Un o'r bandiau ifanc newydd mwyaf addawol i ni ei glywed yn slot Gwyliwch y Gofod yn y misoedd diwethaf. Band gafodd ei greu gan Bryn Hughes Williams a Richard Holt (sydd hefyd yn aelod o 'Crwydro') - caneuon bachog, hawdd iawn gwrando arnyn nhw. Mae'r argoeli'n dda!

Y Cleifion

Prosiect newydd Eifion Austin (gynt o'r Poppies) - sef aelod newydd y Sibrydion. Caneuon acwstig Gareth Bonello-aidd, gyda llawer mwy i ddod. Ar hyn o bryd Eifion yw'r unig aelod, ond mae'n bosib y bydd yn hel aelodau eraill i wneud band llawn yn y dyfodol.

Y Criw

Band / grwp / mudiad / sefydliad hip-hop diweddaraf Cymru! Mae geiriau caneuon Y Criw yn siwr o ddod a gw锚n i'ch gwyneb efo caneuon fel 'Hip i Fod yn Ail-Iaith' a 'Does Dim Byd Mwy Ffyni Na Gog yn Siarad Saesneg'. Tafod yn y boch? Digon posib. Gwerth gwrando? Yn sicr!

Y Cyfrinachwyr

Roc-arbrofol hynod, hynod o gyfrinachol gan gasgliad o gerddorwyr sydd wedi dod at eu gilydd i gyfuno syniadau cerddorol o bob math. Pwy yw'r Cyfrinachwyr? Pwy a wyr!

Y Ffernols

Deuawd acwstig o Aberystwyth. Yn eu geiriau eu hunain "Nid yw Y Ffernols yn debyg i unhryw broject solo arall sydd erioed wedi bodoli, y prif reswm dros hyn yw oherwydd fod dau ohonom!"

Y Ffrwchnedd

Band ifanc o Fangor, wnaeth ond ffurfio pum niwrnod cyn eu gig cyntaf ym Mrwydr y Bandiau Maes B 2008. Band ifanc gyda llawer o botensial, gyda'u caneuon roc-pop bachog.

Y Ffrwydron

Band newydd sydd wedi esblygu o'r band 'Daffodil Hooligans'. Caneuon anhygoel, gyda dylanwad bandiau fel y Super Furry Animals neu Grandaddy yn gryf ar rai ohonyn nhw - ac elfennau mwy ffynclyd ar rai eraill. Bydd ganddyn nhw ganeuon ar albym aml-gyfrannol ar label Kissan yn haf 2009.

Y Gwarth

Nid yr artist cyntaf yn y slot sy'n dymuno aros yn anhysbys, ac o bosib nid yr olaf! Pwy yw Y Gwarth? Does wybod - ond mae'n disgrifio ei gerddoriaeth fel 'pync galluog' ac yn ysgrifennu am bethau syn codi ei wrychyn. Gwrandewch a mwynhewch.

Y Gwehilion

Sion o'r band Bob yw'r br锚ns tu 么l i 'Y Gwehilion' - ond peidiwch disgwyl i'r caneuon fod yr un peth gan y ddau fand. Mae caneuon 'Y Gwehinion' yn tipyn mwy gwerin ac acwstig eu naws, ac yn arbennig o neis - mae recordiadau a swn amrwd y caneuon yn cyfrannu atyn nhw, ac maen nhw'n hynod, hynod o heintus.

Y Lliwiau

Dau hen ffrind ysgol o ardal Abertawe, sy'n cyfansoddi cerddoriaeth electonica / pop gyda chantorion gwadd yn cyfrannu arnynt.

Y Mur

Prosiect Matthew Wall (sydd hefyd yn aelod o 'Hafaliadau') yw 'Y Mur' - gyda Elen Jones. Mae eu caneuon gwerin-modern yn fachog a hawdd iawn gwrando arnyn nhw - perffaith ar gyfer gwrando arnyn nhw tra'n ymlacio, neu mewn gwyl gerddorol dros yr haf.

Y Phil Bennetts

Siwpyr-grwp Pobl y Cwm, ond peidiwch gadael i hynny roi chi off! - mae nw'n wirioneddol dda. Caneuon bachog wedi eu cynhyrchu'n dda.

Y Promatics

Band Indie-roc o Ddyffryn Nantlle, sydd wedi newid cyfeiriad rhywfaint o ran naws eu caneuon yn ddiweddar. Mae eu drymiwr - Dafydd Faxhall - hefyd yn chwarae i un o fandiau eraill Gwyliwch y Gofod - Segur.

Y Pyst

Prosiect Geraint Edwards o Devon (ond yn wreiddiol o Abergele) yw y Pyst. Alawon gwerin Cymreig wedi eu hysgwyd a'u cyffroi gyda cherddoriaeth electronig.

Y Saethau

Band o ffrindiau ysgol o Gaernarfon sydd eisioes wedi blasu peth llwyddiant yn eu gyrfa ifanc fel rocars, gan ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn y Galeri. Ceir digon o hiwmor y Cofi yn eu geiriau, ac alawon bachog sydd yn gwneud eu caneuon yn rai cofiadwy.

Y Sais

Prosiect newydd Owain Ginsberg, gynt o The Heights. Yn 么l eu safle Myspace mae'r band yn: 'Gymysgedd o'r ffrwythau gorau i greu y smwddi gorau newch chi fyth flasu!'

Y S诺n

Prosiect ar yr ochr gan Darren Owen (sydd hefyd yn gyfrifol am Cloud Formations - un o gyn-fandiau Gwyliwch y Gofod) yw Y S诺n, sy'n cael ei ddisgrifio fel stwff mwy melodic, piano chilled ei arddull. Arbennig o neis.

Yr Hogyn Glas

Gareth Pierce a Matthew Hall, o Bwllheli yn wreiddiol, yw Yr Hogyn Glas. Caneuon acwstig, melodig... hyfryd! Mae nhw bellach wedi newid eu henw i 'Hafaliadau' fodd bynnag!

Yr Annioddefol

Band reggae/roc/pop o Flaenau Ffestiniog - un o gystadleuwyr Brwydr y Bandiau C2/Mentrau Iaith Cymru 2007, sydd bellach wedi rhyddhau eu albym cyntaf 'I Ryfel es Di'.

Yr Ods

Cyfarfu Griff Lynch a Gruff Pritchard yn y coleg yn Aberystwyth, ac mae Yr Ods 'yn mynd i chwalu dy ben, sbeitio dy dad, a rhamantu dy fam...' yn 么l y son.

Zombieoper

Band o Frasil sydd yn deilwng i gael sylw yn slot 'Gwyliwch y Gofod' gan fod ganddynt g芒n Gymraeg ar eu myspace o'r enw 'Anghenfil y Nos' gyda neb llai na Gruff Rhys yn canu!

Ydi'ch band chi yn haeddu sylw yn y slot Gwyliwch y Gofod? Gyrrwch fanylion y band a chyfeiriad eich tudalen MySpace i: c2@bbc.co.uk

Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am unrhyw wefannau a restrir yma.


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.