Âé¶¹Éç

Use Âé¶¹Éç.com or the new Âé¶¹Éç App to listen to Âé¶¹Éç podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Cymru,2 mins

Brynsaeson, Sir Gâr: Cerddi Rhyfelgar Merch Ifanc

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Available for over a year

Ysgrifennodd Sarah Davies o Fferm Brynsaeson ger Pencader yn Sir Gâr ddarn o farddoniaeth yn enwi tua 25 o fechgyn lleol a fu’n ymladd yn y Rhyfel Mawr. Mae'r gerdd yn portreadu'r bechgyn fel arwyr ac yn defnyddio geirfa dreisgar i ddisgrifio'r "Kaisar brwnt ei ras". Roedd Sarah yn ei harddegau pan ysgrifennodd y gerdd ac mae'n sôn am enwau’r ffermydd o amgylch Brynsaeson a'r tai yn y pentref lle roedd y milwyr yn byw, gan greu cofnod cymdeithasol diddorol a phwysig o’r cyfnod. Mae Anita James yn sôn am y modd y daeth o hyd i’r farddoniaeth ynghanol hen luniau teuluol, ac mae’r Athro E Wyn James o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn siarad am arwyddocâd a phwysigrwydd y gerdd yn ei chyd-destun cymdeithasol. Ceir dyfyniadau o’r gerdd gan Suan John, merch ysgol leol o Bencader. Lleoliad: Brynsaeson, cartref Sarah Davies ger Pencader yn Sir Gaerfyrddin, SA39 9HP Gyda diolch i Mrs Anita James, Casgliad y Werin a Mr a Mrs Bracegirdle. Detholiad o'r gerdd, Bechgyn Bach Pencader: Cydganwn glodydd mad I ddewrion maes y gad. Mae bechgyn bach Pencader Yn ymladd dros eu gwlad Bu Johnnie bach yr Ystrad A’i fynwes fel y dur Yn ymladd yn y trenches Yn galed, amser hir. ... A Tommy Pantygravel Sydd heddiw dan ei graith Nôl bod draw yn y trenches Yn gwneyd gorchestion waith Fe laddodd Tom o’r Germans Do, ddegau meddent hwy Os nôl yr aiff e eto Fe ladda lawer mwy! Dau fab Dolbantau hefyd Sydd yno’n ddewr eu gwedd A Titus gyda Christmas Yn fywiog iawn eu cledd A William James Dolawel Aeth yntau’n ddewr i mâs Cael rhoddi ‘pluck’ i wiskers Y Kaisar brwnt ei ras. Mae’n bleser imi enwi Lieutenant Jones Pantglas Yn bennaeth ar ei gatrawd Mae ef yn mynd i mâs Yn llawn o waed y brython Heb ofni’r shots na’r shells I wneuthur stroke anfarwol Draw yn y Dardanells. Mae Jim Maesybwlch fel gwron Draw yn y Rhyfel blin I saethu lawer Germans, Mae Jim yn eithaf ddyn. Jack George a Wille Ystrad Dau filwr dewr a rhydd Na feier boys Pencader Os Kaisar garia’r dydd. ... Mae Jack Nantllech fel gwron Yn gwneyd ei little bit Pan wêl y Kaisar Johnnie Mae e sicr o gael ffit! ... Mae John Cwmbychan hefyd Yn wrol gyda’r llu. Ac yna’n ffraith ei dafod Mae Harry Castelldu. O druan bach â’r Kaisar Cwynfannus fydd ei gân Pan wêl ef Dai y Felin A’i ddryll yn dod ymlân. ... Dau fachgen Daniel CrossInn A Tommy o Landdu A William Ffosyfedwen Sy’n ymladd nawr o’n tu. A Bertie Broad sydd yno A Tommy bach yn wir Hwy ânt i fewn dan ganu I Berlin cyn bo hir. Dai Davies, mab y Gwastod Jack Jacob o Brynbach A Willie Jones y Bribwll Sy’n ymladd amser maith Bydd hôl y frwydyr arno Hyd fedd, y ddwfn graith. Wel bendith fydd yn canlyn Holl wŷr y brethyn llwyd Hyd nes y rhoddant derfyn I’r Kaisar cas ei nwyd Ac os y gwnes anghofio Rhyw wron yn fy nghân Ond iddo beidio digio Caeth bennill nes ymlân. Cydganwn glodydd mad I ddewrion maes y gad Mae bechgyn bach Pencader Yn ymladd dros eu gwlad.

Programme Website
More episodes