Brynsaeson, Sir G芒r: Cerddi Rhyfelgar Merch Ifanc
Cerddi gan Sarah Davies o fferm Brynsaeson ger Pencader yn rhestru'r dynion ifanc o'i hardal oedd yn ymladd yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ysgrifennodd Sarah Davies o Fferm Brynsaeson ger Pencader yn Sir G芒r ddarn o farddoniaeth yn enwi tua 25 o fechgyn lleol a fu鈥檔 ymladd yn y Rhyfel Mawr. Mae'r gerdd yn portreadu'r bechgyn fel arwyr ac yn defnyddio geirfa dreisgar i ddisgrifio'r "Kaisar brwnt ei ras".
Roedd Sarah yn ei harddegau pan ysgrifennodd y gerdd ac mae'n s么n am enwau鈥檙 ffermydd o amgylch Brynsaeson a'r tai yn y pentref lle roedd y milwyr yn byw, gan greu cofnod cymdeithasol diddorol a phwysig o鈥檙 cyfnod.
Mae Anita James yn s么n am y modd y daeth o hyd i鈥檙 farddoniaeth ynghanol hen luniau teuluol, ac mae鈥檙 Athro E Wyn James o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn siarad am arwyddoc芒d a phwysigrwydd y gerdd yn ei chyd-destun cymdeithasol.
Ceir dyfyniadau o鈥檙 gerdd gan Suan John, merch ysgol leol o Bencader.
Lleoliad: Brynsaeson, cartref Sarah Davies ger Pencader yn Sir Gaerfyrddin, SA39 9HP
Gyda diolch i Mrs Anita James, Casgliad y Werin a Mr a Mrs Bracegirdle.
Detholiad o'r gerdd, Bechgyn Bach Pencader:
Cydganwn glodydd mad
I ddewrion maes y gad.
Mae bechgyn bach Pencader
Yn ymladd dros eu gwlad
Bu Johnnie bach yr Ystrad
A鈥檌 fynwes fel y dur
Yn ymladd yn y trenches
Yn galed, amser hir.
...
A Tommy Pantygravel
Sydd heddiw dan ei graith
N么l bod draw yn y trenches
Yn gwneyd gorchestion waith
Fe laddodd Tom o鈥檙 Germans
Do, ddegau meddent hwy
Os n么l yr aiff e eto
Fe ladda lawer mwy!
Dau fab Dolbantau hefyd
Sydd yno鈥檔 ddewr eu gwedd
A Titus gyda Christmas
Yn fywiog iawn eu cledd
A William James Dolawel
Aeth yntau鈥檔 ddewr i m芒s
Cael rhoddi 鈥榩luck鈥� i wiskers
Y Kaisar brwnt ei ras.
Mae鈥檔 bleser imi enwi
Lieutenant Jones Pantglas
Yn bennaeth ar ei gatrawd
Mae ef yn mynd i m芒s
Yn llawn o waed y brython
Heb ofni鈥檙 shots na鈥檙 shells
I wneuthur stroke anfarwol
Draw yn y Dardanells.
Mae Jim Maesybwlch fel gwron
Draw yn y Rhyfel blin
I saethu lawer Germans,
Mae Jim yn eithaf ddyn.
Jack George a Wille Ystrad
Dau filwr dewr a rhydd
Na feier boys Pencader
Os Kaisar garia鈥檙 dydd.
...
Mae Jack Nantllech fel gwron
Yn gwneyd ei little bit
Pan w锚l y Kaisar Johnnie
Mae e sicr o gael ffit!
...
Mae John Cwmbychan hefyd
Yn wrol gyda鈥檙 llu.
Ac yna鈥檔 ffraith ei dafod
Mae Harry Castelldu.
O druan bach 芒鈥檙 Kaisar
Cwynfannus fydd ei g芒n
Pan w锚l ef Dai y Felin
A鈥檌 ddryll yn dod yml芒n.
...
Dau fachgen Daniel CrossInn
A Tommy o Landdu
A William Ffosyfedwen
Sy鈥檔 ymladd nawr o鈥檔 tu.
A Bertie Broad sydd yno
A Tommy bach yn wir
Hwy 芒nt i fewn dan ganu
I Berlin cyn bo hir.
Dai Davies, mab y Gwastod
Jack Jacob o Brynbach
A Willie Jones y Bribwll
Sy鈥檔 ymladd amser maith
Bydd h么l y frwydyr arno
Hyd fedd, y ddwfn graith.
Wel bendith fydd yn canlyn
Holl w欧r y brethyn llwyd
Hyd nes y rhoddant derfyn
I鈥檙 Kaisar cas ei nwyd
Ac os y gwnes anghofio
Rhyw wron yn fy ngh芒n
Ond iddo beidio digio
Caeth bennill nes yml芒n.
Cydganwn glodydd mad
I ddewrion maes y gad
Mae bechgyn bach Pencader
Yn ymladd dros eu gwlad.
