Episode details

Available for over a year
Dow, meddai Dyn, mi alla i wneud yn well fy hun Edrychodd o ddifri ar ei fyd o glai a choed, o garreg a llechi gan feddwi ar y syniad o Fywyd Modern. Gwell. Cyflymach. Cryfach. Ysgafnach. Trodd ei law at atom; aeth ati i ymyrryd鈥� A do! Llwyddodd i drin cadwyni o bolymer, carbon, ocsigen, nitrogen, swlffwr a silicon a chreu plastig. Plastig! Plastig! Plastig! Ffantastig! Plastig yn llifo o鈥檔 droriau, o鈥檔 pyrsiau, o鈥檔 clustiau i mewn i grombil y ddaear ac i鈥檙 tonnau. Wele! Ein dyfais wych mewn gwrych, ar lwybr troed, ar frigau鈥檙 coed, yn y pysgod, ar ein platiau, yn ein boliau鈥� Oedwn, rhwng cegiad a chegiad i brofi blas ein Bywyd Modern. Mae ei wenwyn hallt yn ein gyrru at atom eto ond mae patrymau鈥檙 cadwyni鈥檔 ein drysu a鈥檔 dallu rhag dychmygu mwy. Mae terfyn ar orwel ein gweld. Ond yna, dow, meddai Dyn, yli ar Natur ei hun. Mae gwychder yma o鈥檔 blaenau! Yli鈥檙 pry yma, yn hongian ben i waered. Heb siw na miw, mae鈥檔 byw mewn realiti sydd tu hwnt i ni. Mae鈥檔 hongian, mae鈥檔 cerdded ben i waered. GWELER, meddai Dyn. Gallwn ddysgu gan Natur ei hun.
Programme Website