Cerdd Casia Wiliam, bardd mis Medi, i Galwad Cynnar.
Cerdd Casia Wiliam, bardd mis Medi, i Galwad Cynnar.
Dow, meddai Dyn, mi alla i wneud yn well fy hun
Edrychodd o ddifri ar ei fyd o glai a choed, o garreg a llechi
gan feddwi ar y syniad o Fywyd Modern.
Gwell. Cyflymach. Cryfach. Ysgafnach.
Trodd ei law at atom; aeth ati i ymyrryd鈥�
A do! Llwyddodd i drin cadwyni o bolymer,
carbon, ocsigen, nitrogen, swlffwr a silicon
a chreu plastig.
Plastig! Plastig!
Plastig! Ffantastig!
Plastig yn llifo o鈥檔 droriau,
o鈥檔 pyrsiau, o鈥檔 clustiau
i mewn i grombil y ddaear
ac i鈥檙 tonnau.
Wele! Ein dyfais wych
mewn gwrych, ar lwybr troed, ar frigau鈥檙 coed,
yn y pysgod, ar ein platiau, yn ein boliau鈥�
Oedwn, rhwng cegiad a chegiad
i brofi blas ein Bywyd Modern.
Mae ei wenwyn hallt yn ein gyrru at atom eto
ond mae patrymau鈥檙 cadwyni鈥檔 ein drysu
a鈥檔 dallu rhag dychmygu mwy.
Mae terfyn ar orwel ein gweld.
Ond yna, dow, meddai Dyn, yli ar Natur ei hun.
Mae gwychder yma o鈥檔 blaenau!
Yli鈥檙 pry yma, yn hongian ben i waered.
Heb siw na miw, mae鈥檔 byw mewn realiti sydd tu hwnt i ni.
Mae鈥檔 hongian, mae鈥檔 cerdded ben i waered.
GWELER, meddai Dyn. Gallwn ddysgu gan Natur ei hun.