Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Âé¶¹Éç Wales whatsinanameÂé¶¹Éç Wales - Features

Âé¶¹Éç Homepage
Cymru'r Byd

› Beth sy' mewn enw?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nia Roberts a Trevor Fishlock, cyflwynwyr cyfres deledu What's in a name?

Mwy am y prosiect

Rydyn ni wedi bod yn darganfod mwy am darddiad a chwedloniaeth enwau lleoedd Cymru ar holl wasanaethau Âé¶¹Éç Cymru.

Ar y teledu

Bu cyfres deledu Saesneg What's in a name gyda Trevor Fishlock a Nia Roberts yn trafod rhai o'r cwestiynau 'rydych chi wedi eu codi ar y wefan hon neu ar y radio. Mwy am y gyfres deledu (Saesneg).

Ar y radio

Mae gêm banel Beth sy' mewn enw'n cael ei ddarlledu ar Radio Cymru ar fore Sul am bedair wythnos o 27 Mai. Bydd ail ddarllediad ar Ddydd Mawrth. Mwy am y gyfres radio.

Roedd slot wythnosol ar raglen Hywel a Nia dros fisoedd Chwefror a Mawrth gyda'r Athro Hywel Wyn Owen, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd Prifysgol Cymru Bangor yn ateb rhai o'ch cwestiynau chi. Mae clipiau sain o'i atebion ar gael ar y wefan.

Ar y We

Mae nifer ohonoch wedi cyfrannu i'r wefan gyda'ch straeon difyr a doniol am enwau lleoedd, ond hoffen ni glywed mwy. Cysylltwch â ni.

Ar wefan Saesneg 'What's in a name' mae modd i chi geisio darganfod ystyr a tharddiad enwau lleoedd penodol drwy ddefnyddio'r chwiliwr newydd.

Felly, os fuoch chi'n pendroni pwy oedd y seintiau yn Llanpumsaint neu'r Madog yn Porthmadog, rhowch gynnig arni. Rydyn ni'n awyddus i glywed eich barn. Chwiliwr enwau lleoedd (Saesneg).

Lansiad y prosiect

Lansiodd Beth sy' mewn enw ar 16 Chwefror ar raglen Hywel a Nia ar Radio Cymru a rhaglen Roy Noble ar Radio Wales.

Daeth yr Athro David Thorne i ymuno â Hywel a Nia yn Llanbedr Pont Steffan i drafod faint mae enw'n gallu ei ddatgelu am le - ei hanes, ei dirwedd, ei bobl a'u hiaith.

.

Eich sylwadau

"Wrth Aberhonddu gwelais le o'r enw 'Lloegr'. Mae'r Saeson ym mhob man!"

Andy o Gwmbrân

A wyddech chi?

Mae 608 o enwau lleoedd yn dechrau gyda Llan.

Beth yw gwir ystyr llan?

Eich straeon


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý