Dyma restr o wefannau a sefydliadau defnyddiol os hoffech chi ddarganfod mwy am enwau lleoedd.
-
Cronfa ddata o ffurfiau hanesyddol 330,000 o enwau lleoedd Cymru a gasglwyd gan yr Athro Melville Richards (1910-1973)
-
Adnodd hwylus lle y gallwch wirio a oes enw Cymraeg yn bodoli ar gyfer enw lle Saesneg, neu enw Saesneg yn bodoli ar gyfer enw lle Cymraeg.
-
Gwefan Saesneg sy'n rhoi cyflwyniad i enwau lleoedd a rhestr gryno o elfennau cyffredin a geir mewn enwau lleoedd. Mae hefyd wybodaeth am ieithoedd Gaeleg, Gaeleg yr Alban a dylanwad y Llychlynwyr ar enwau lleoedd.
- Gwybodaeth am ganolfan iaith unigryw sy'n cynnig cefnogaeth a gwasanaeth datblygu'r Gymraeg, gan gynnwys enwau lleoedd.
-
Gwybodaeth am y bwrdd ymgynghorol sy'n cynnig cyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru i unigolion a sefydliadau.
- Deric John yn ysgrifennu am darddiad rhai o enwau lleoedd de Cymru.
-
Cronfa ddata sy'n cael ei chynnal gan athrofa astudiaethau enwau ym Mhrifysgol Nottingham sy'n cynnig dehongliadau o ddinasoedd, trefi a phentrefi Lloegr.
Llyfrau
- Ar Draws Gwlad
Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen (Gwasg Carreg Gwalch) - Llyfryn difyr yn llawn erthyglau a gyhoeddwyd yn gyntaf yn y Gymraeg yng ngholofn 'Y Ditectif Geiriau' yn y Western Mail.
- Enwau
Bedwyr Lewis Jones (Gwasg Carreg Gwalch) -
Llyfryn yn s么n am brif enwau siroedd a threfi Cymru.
- Enwau Tir a Gwlad
Melville Richards (Gwasg Gwynedd)-
Trafodaeth am rai o'r dylanwadau a'r elfennau sydd i'w canfod yn enwau lleoedd Cymru.
- Rhestr o Enwau Lleoedd - A Gazeteer or Welsh Place-Names
Elwyn Davies (University of Wales Press)
- Y Llyfr Enwau - A Check-List of Welsh Place-names
D. Geraint Lewis (Gomer) -
Y gyntaf o ddwy gyfrol am enwau priod. Mae'r llyfr hwn yn ymdrin ag enwau lleoedd a bydd yr ail yn trafod enwau personol Cymru. Nid oes cysylltiad rhwng y llyfr hwn 芒 phrosiect Beth sy' mewn enw.
Darllenwch adolygiad o'r llyfr
- The Dictionary Of Place-Names Of Wales
Hywel Wyn Owen a Richard Morgan (Gwasg Gomer) - Geiriadur yn cynnwys dros 2,000 o enwau lleoedd yng Nghymru a gyhoeddwyd ar ddiwedd saith mlynedd o waith ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r gyfrol yn egluro gwraidd 1,000 o enwau eraill, gan gynnwys afonydd a mynyddoedd.
English language books
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.