Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Angor
Tegwen Morris O'r mynydd i'r môr
Gorffennaf 2008
Tegwen Morris yn esbonio pam ei bod hi'n caru Aberystywth.

"Ni fedraf gredu heddiw fy mod yn byw yng nghanol tref brysur ond gartrefol Aberystwyth. Fe'm ganwyd a'n magwyd yn ferch fferm "Alltgoch" nepell o Graig Twrch ger pentref bach Ffaldybrenin yn Sir Gaerfyrddin.

"Merch y Mynydd" oedd fy ffugenw yn yr eisteddfodau, ond heddiw buaswn yn ddigon hapus i gael fy ngalw yn ferch y môr. Daeth fy nghyswllt cyntaf â'r dŵr yn Ysgol Gyfun Llambed pan y cefais gyfle i ddysgu canwio a chael mynd allan ar y môr yn Llangrannog, a phan fydd Ioan ac Aled ychydig yn hŷn gobeithiaf y bydd modd i ni fel teulu ganwio unwaith eto.

Roedd Llansteffan yn fy nenu yn fawr tra'r oeddwn yn y Coleg yng Nghaerfyrddin, ond mae rhywbeth arbennig am Aberystwyth.

Mae'r môr a'r mynydd yn gyfochrog ac un o'n hoff deithiau ydyw cerdded i fyny Consti a thaith yr arfordir draw i Clarach, lle ar ddiwrnod braf byddwn yn cyfarfod gyda dwsinau o bobl eraill - ymwelwyr yn aml sy'n carafanio ac sy'n dotio at y daith ac yn barod iawn i gael sgwrs.

Naw mlynedd yn ôl pan symudais i Aberystwyth, Trefechan oedd fy nghartref, gyda'r afon yn llifo gerllaw a'r elyrch enfawr yn osgeiddig ar eu taith.

Yna symud i Ffordd y Gogledd gyda Richard yn 2001. Mae yna gyfeillgarwch hyfryd yn perthyn i'r stryd a chymdogion yn gymwynaswyr a'r plant yn cael y cyfle i dyfu i fyny gyda theulu estynedig sy'n ffrindiau - am brofiad hyfyd.

Mae'r dref yn le diogel, y prom a'r arddangosfa o adar eira yn hedfan yn ysblennydd a'r harbwr yn atyniad arbennig. Ceir cyfleon i feicio, ailgylchu, cymdeithasu ac mae'r parciau plant yn leoedd cyfeillgar ac ar y tair ffordd allan o'r dre ceir atyniadau arbennig sef y twyni yn Ynys Las, y Barcutiaid yn Nant yr Arian a Fferm Ffantasi, maent oll yn leoliadau arbennig.

Rwy'n ffodus fod fy lleoliad gwaith sef Canolfan Genedlaethol Merched y Wawr hefyd mewn llecyn hyfryd ger y Castell, ac yn adeilad cymdeithasol iawn.

Pwy all beidio a rhyfeddu at fywyd gwyllt y môr gyda'r wawr a'r machlud bythgofiadwy sy'n well nag unrhyw draeth tramor ac oglau y gwymon hyfryd.

Pobl sy'n gwneud lle yn baradwys, a diolchaf am y cyfeillgarwch arbennig a gawn fel teulu yn Aberystwyth.

Ysgrifenwyd yr erthygl gan Tegwen Morris


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Âé¶¹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý