Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Golff

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 03 Hydref 2010

Ewrop ar dân wrth daro'n ôl yng Nghwpan Ryder

Roedd hi'n drydedd sesiwn gwefreiddiol i Ewrop yng Nghwpan Ryder wrth i dîm Colin Montgomerie gasglu 5.5 pwynt allan o'r chwech oedd ar gael.

Ross Fisher a Padraig Harrington

O ganlyniad, bydd Ewrop yn cychwyn y sesiwn olaf o 12 gêm senglau ddydd Llun ar y blaen o 9.5 i 6.5 yn erbyn Yr Unol Daleithiau yn Celtic Manor.

Bu'n rhaid ymestyn y gystadleuaeth am ddiwrnod ychwanegol am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth 83 mlwydd oed oherwydd rhagor o law trwm fore Sul yng Nghasnewydd.

Roedd yn rhaid disgwyl tan 1330 BST cyn i'r frwydr gychwyn unwaith eto, gan chwalu'r gobeithio o allu chwarae'r senglau ar ôl y chwe gêm parau.

Pan ddaeth y chwarae i ben brynhawn Sadwrn, roedd Ewrop ar y blaen ym mhob un o'r chwe gêm ar y cwrs, ond ar ei hôl hi 6 i 4 wedi'r ddwy sesiwn gyntaf.

A sicrhawyd y pwynt cyntaf heb fawr o drafferth wrth i Lee Westwood a Luke Donald roi cweir o 6&5 i Tiger Woods a Steve Stricker.

Dyna oedd colled fwyaf Woods mewn unrhyw gêm Cwpan Ryder, ond roedd Donald yn dathlu ymestyn ei record anhygoel o ennill bob gêm yn y fformat bob yn ail yn y gystadleuaeth.

Daeth ail fuddugoliaeth yn y gêm nesaf wrth i Rory McIlroy a Graeme McDowell guro Zach Johnson a Hunter Mahan 3&1.

McIlroy suddodd y pwt i ennill y gêm ar y ail dwll ar bymtheg, gan sicrhau ei fuddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth.

Parhau gwnaeth y llwyddiant anhygoel i Ewrop wrth i Padraig Harrington a Ross Fisher guro Jim Furyk a Dustin Johnson 2&1 gan roi Ewrop ar y blaen yn gystadleuaeth am y tro cyntaf.

Miguel Angel Jimenez a Peter Hanson oedd y pâr nesaf i roi rhagor o achos dathlu i'r dorf wrth orffen yn hynod gryf i guro Bubba Watson a Jeff Overton o ddau dwll.

Gorffen mewn steil wnaeth Ian Poulter a Martin Kaymer hefyd wrth guro Phil Mickelson a Rickie Fowler 2&1.

A gwelwyd diweddglo syfrdanol yn y gêm olaf ar y twll olaf wrth i Francesco Molinari suddo pluen i sicrhau hanner pwynt gyda'i frawd Eduardo yn erbyn Stewart Cink a Matt Kuchar.


Canlyniadau

Sesiwn Tri: (Ewrop 9.5, UDA 6.5)
Luke Donald/Lee Westwood v Steve Stricker/Tiger Woods
Ewrop yn ennill 6&5

Graeme McDowell/Rory McIlroy v Zach Johnson/Hunter Mahan
Ewrop yn ennill 3&1

Padraig Harrington/Ross Fisher v Jim Furyk/Dustin Johnson
Ewrop yn ennill 2&1

Peter Hanson/Miguel Angel Jimenez v Bubba Watson/Jeff Overton
Ewrop yn ennill 2 i fyny

Edoardo Molinari/Francesco Molinari v Stewart Cink/Matt Kuchar
Hanner

Ian Poulter/Martin Kaymer v Phil Mickelson/Rickie Fowler
Ewrop yn ennill 2&1

Sesiwn 2: (Ewrop 4, UDA 6)
Edoardo Molinari/Francesco Molinari v Zach Johnson/Hunter Mahan
UDA yn ennill 2 i fyny

Lee Westwood/Martin Kaymer v Jim Furyk/Rickie Fowler
Hanner

Padraig Harrington/Ross Fisher v Phil Mickelson/Dustin Johnson
Ewrop yn ennill 3&2

Miguel Angel Jimenez/Peter Hanson v Tiger Woods/Steve Stricker
UDA yn ennill 4&3

Ian Poulter/Luke Donald v Bubba Watson/Jeff Overton
Ewrop yn ennill 2&1

Rory McIlroy/Graeme McDowell v Stewart Cink/Matt Kuchar
UDA yn ennill 1 i fyny

Sesiwn 1 (Ewrop 1.5, UDA 2.5):
Lee Westwood/Martin Kaymer v Phil Mickelson/Dustin Johnson
Ewrop yn ennill 3&2

Rory McIlroy/Graeme McDowell v Stewart Cink/Matt Kuchar
Hanner

Ian Poulter/Ross Fisher v Steve Stricker/Tiger Woods
UDA yn ennill 2 i fyny

Luke Donald/Padraig Harrington v Bubba Watson/Jeff Overton
UDA yn ennill 3&2


chwaraeon



About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý