麻豆社

Cymru Werdd

Cymru werdd

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

O'r 7fed tan y 18fed o Ragfyr 2009, fe fydd gweinidogion amgylchedd o 192 o wledydd yn dod ynghyd yn Copenhagen ar gyfer Uwch-gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd. Eu nod fydd llunio cytundeb bydeang i daclo newid hinsawdd a fydd yn weithredol o 2012 ymlaen.

I nodi'r achlysur hanesyddol hon, mae 麻豆社 Cymru yn darlledu tymor arbennig o raglenni a fydd yn ymdrin ag ystod eang o bynciau amgylcheddol.

Yma ar 麻豆社 Radio Cymru, bydd modd i chi glywed amrywiaeth o gynnwys - o sgyrsiau difyr ar raglenni dyddiol i drafod a dadansoddi manwl ar ein cyfresi newyddion a materion cyfoes.

Mae Cymry ar gyfartaledd yn cyfrannu mwy at lefelau carbon diocsid yn yr awyr na phobl yn Lloegr, Tseina neu Rwsia

Mae drama arbennig hefyd wedi'i chomisynu sy'n rhoi blas ar sut allai bywyd ddatblygu yng Nghymru erbyn y flwyddyn 2050.

Nod Tymor Gwyrdd 麻豆社 Cymru yw holi sut mae newidiadau yn yr hinsawdd yn effeithio arnom ni yng Nghymru ac i ysgogi trafodaeth ar gynaladwyedd a llu o gwestiynau eraill:

  • Ydy pobl yn derbyn bod hinsawdd y byd yn newid?
  • Pam fod y Cymry ar gyfartaledd yn cyfrannu mwy at lefelau carbon diocsid yn yr awyr na phobl yn Lloegr, Tseina neu Rwsia?
  • Pwy sydd fwyaf cyfrifol a phwy sydd angen gweithredu i newid y sefyllfa - unigolion, busnesau, awdurdodau lleol, llywodraethau cenedlaethol neu sefydliadau rhyngwladol?
  • Beth yw polisiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac a ydyn nhw'n effeithiol?
  • Beth mae cymunedau lleol yn ei wneud i fyw yn fwy cynaladwy?
  • O fynd ati i leihau ein h么l-troed carbon, beth fydd yr effaith ar ein bywydau bob dydd?

Caiff Tymor Gwyrdd 麻豆社 Cymru ei lawnsio Ddydd Llun 23 Tachwedd ac fe fydd yn parhau tan ddiwedd Uwch-gynhadledd Copenhagen.

Yn ogystal 芒 rhaglenni a chynnwys arlein ar 麻豆社 Radio Cymru, bydd sylw hefyd ar 麻豆社 One Wales, ar 麻豆社 Radio Wales ac ar .

Cofiwch hefyd y bydd stor茂au newyddion o Copenhagen yn ymddangos yn gyson ar wefan .


Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.