
Ar 么l yr holl drafod a'r paratoi, y dyfalu a'r darogan mae'r byd wedi ymgynull yn Copenhagen ar gyfer yr uwch-gynhadledd amgylcheddol. Yn y rhaglen arbennig hon o Manylu Rhun ap Iowerth sydd yn holi panel o arbenigwyr os ydi cytundeb yn bosib.
Manylu - Dydd Llun 30 Tach, 6pm

Catrin Gerallt yn cyflwyno rhaglen arbennig o Manylu yn edrych ar sut allai'r gynhadledd yn Copenhagen effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru.
Wrth i weinidogion amgylchedd o 192 o wledydd gwahanol geisio ffurfio cytundeb byd-eang i daclo newid hinsawdd, a ydyn ni'n fodlon talu'r pris?
Taro'r Post - Dydd Llun 30 Tach, 12pm

Wrth i wleidyddion baratoi i deithio i Copenhagen i drafod newid hinsawdd a dyfodol y byd, ma Taro'r Post yn symud allan o'r stiwdio a dod yn fyw o Ysgol Uwchradd Botwnog ac yn gofyn i'r disgyblion yno pa mor wyrdd ydyn nhw.
Rhiannon, Hedydd ac Alice yn trafod pa mor wyrdd ydyn nhw
Drama Nhw - Dydd Sul 29 Tach, 2pm

Drama ddadleuol wedi ei gosod ddeugain mlynedd yn y dyfodol yw Nhw gan yr awduron Nic Ros a Manon Steffan Ros.
Mae'r byd bellach yn dioddef o achos newid hinsawdd ac mae hynny o dir sydd ar 么l dan ei sang gyda phoblogaeth symudol.
Ceir cip ar drafferthion all wynebu ffermwyr y dyfodol wrth i Jo (Dewi Rhys) a Marian (Rhian Cadwaladr), amaethwyr o ogledd Cymru, geisio dygymod 芒'r newid yn ein byd.
Hefyd i ddod...
Dros yr wythnosau nesaf bydd rhaglen hefyd yn edrych ar beth allwn ni ei wneud i gael Nadolig gwyrdd, yn bwrw golwg ar y newid ym myd natur, yn mynd ar daith werdd o gwmpas Cymru ac C2 yn tanio ambell i drafodaeth gyda'r hwyr.
Cysylltiadau'r 麻豆社
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

