Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Âé¶¹Éç Cymru'r Byd - Creu Cenedl

Âé¶¹Éç Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

Âé¶¹Éç Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Y Diwygiad Protestannaidd
Morwyn Penrhys
Morwyn Penrhys

Crefydd yr oesoedd canol diweddar yng Nghymru
Yn yr hanner can mlynedd cyn y Diwygiad Protestannaidd yr oedd ymlyniad y bobl at grefydd draddodiadol yn daer iawn. Yr oedd llawer o addoli ar y Forwyn Fair. Codwyd eglwysi trefol nodedig yng Nghaerdydd, Dinbych y Pysgod, Wrecsam a mannau eraill. Codwyd eglwysi dwy ale yn Nyffryn Clwyd, ac mae cryn barch at ddelwau megis Morwyn Penrhys (Rhondda). Eto, er mor boblogaidd yw arferion crefyddol y Cymry, nid oes iddynt fawr o sylwedd deallusol. A chan mai prin o ran gallu yw’r Cymry all warchod yr hen, a dim ond ambell un yn awyddus i anwesu’r newydd, eu hymateb cyffredinol i newidiadau crefyddol yw derbyn yn swrth yr hyn mae’r llywodraeth yn ei gyflwyno.

Torri'r cysylltiad a RhufainTorri’r cysylltiad â Rhufain
Erbyn diwedd y 1520au mae Harri VIII yn awyddus i ysgaru’i wraig Catherine o Aragon er mwyn priodi Anne Boleyn. Dim ond y Pab all ganiatáu hynny, ac nid yw’n awyddus i gythruddo nai Catherine, yr Ymerawdwr Siarl V. Yn 1529 mae’r brenin yn cynnull senedd lle mae rhwydd hynt i unrhyw un fynegi teimladau gwrth-babaeth. Dechreuwyd proses sydd â’i momentwm ei hunan. Erbyn 1535 mae Harri, gyda chymorth ei brif weinidog, Thomas Cromwell, wedi sicrhau nifer o fesurau sy’n dileu awdurdod y Pab yn nhiriogaethau coron Lloegr ac yn dyrchafu’r brenin yn ben ar Eglwys Loegr.

Rhagor o newidiadau crefyddol
Roedd y Diwygiad Protestannaidd wedi dechrau yn yr Almaen yn 1517, ond nid torri’r cysylltiad â Rhufain er mwyn derbyn y grefydd Brotestannaidd oedd bwriad Harri. Ei nod yw sicrhau i’w hunan y pwerau oedd gan y Pab.

Y mae Protestaniaid yn cael eu herlyn. Llosgwyd Thomas Capper yng Nghaerdydd yn 1542. Eto mae Harri’n hyrwyddo rhai polisïau lled Brotestannaidd, yn benodol felly, mewn perthynas â mynachaeth. Rhwng 1536 a 1540 ymosodwyd ar y tai crefydd. Yr oedd 47 ohonynt yng Nghymru, yn cynnwys mynachdai, lleiandai, brodordai a chelloedd amrywiol. Yr oedd y bywyd mynachaidd wedi bod yn ddilewyrch ers tro. Erbyn 1536 dim ond wyth deg pump o fynachod oedd mewn tri ar ddeg o fynachlogydd Sistersaidd yng Nghymru - ac yr oedd enw digon amheus gan rai ohonynt. Diddymwyd y mynachdai nid oherwydd eu gwendidau ond am fod y brenin yn chwennych eu cyfoeth.

Thomas Cranmer O ganlyniad i’r diddymiad y mae cannoedd o filoedd o erwau o dir Cymru yn newid dwylo. Yr uchelwyr sydd ar eu hennill. Er enghraifft, fe drosglwyddwyd Abaty Margam a’i diroedd i’r teulu Mansel, a’r teulu Somerset o Rhaglan yn cael tiroedd Tyndyrn. Er bod rhai o dai’r Benedictiaid yn troi’n eglwysi plwyf, y mae llawer o’r mynachlogydd yn troi’n adfeilion - ergyd greulon i’r etifeddiaeth bensaernïol Gymreig.

Erbyn marwolaeth Harri’r VIII yn 1547, y mae newidiadau crefyddol eraill wedi digwydd, yn fwyaf arbennig, dinistrio delweddau megis yr un ym Mhenrhys ac atal y canolfannau pererindota. Yn 1539 mae’r brenin yn caniatáu cyhoeddi’r Beibl yn Saesneg a chyhoeddwyd llyfr gweddi Thomas Cranmer yn 1544. Ddwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf, gwaith John Prys, Aberhonddu. Ei gynnwys oedd y Credo, Gweddi’r Arglwydd a’r Deg Gorchymyn. Dyma ddechreuad cyhoeddi yn y Gymraeg.

Rhwng 1546 a 1660 cyhoeddwyd 108 o lyfrau Cymraeg, rhif bychan o’i gymharu â’r llyfrau a gyhoeddwyd yn Saesneg neu Ffrangeg, ond nifer sylweddol o’i gymharu â’r ieithoedd Celtaidd eraill. Yn y cyfnod yna dim ond pedwar llyfr Gaeleg gafodd eu cyhoeddi a dim ond un ar ddeg yn yr Wyddeleg.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno

  10. Y Diwygiad Protestannaidd
    Tud 1, Tud 2,

  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
Âé¶¹Éç
© MM
Ìý Ìý