|  |
 Yr
Eglwys Geltaidd yng Nghymru
Abaty Tyndyrn
Natur
yr eglwysi Celtaidd
Am bum can mlynedd ar 么l cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig yr oedd gan
Gristnogaeth Cymru ei nodweddion arbennig ei hunan. Y mae鈥檙 nodweddion
hyn yn gyffredin i鈥檙 gwledydd Celtaidd eraill, Iwerddon, Cernyw, Llydaw,
Ynys Manaw a鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 Alban. Y drefn yn Eglwys Rhufain oedd
esgobion mewn dinasoedd, pob un un 芒鈥檌 esgobaeth a鈥檌 swyddogion
ei hunan. Ond nid oedd gan yr Eglwysi Celtaidd fawr ddim canolfannau
trefol; yr oedd mwy o barch tuag yr abad yn ei fynachdy nag i鈥檙 esgob
yn ei gadeirlan, a phrin yw鈥檙 fiwrocratiaeth sydd i鈥檞 gweld yn y drefn
Rufeinig. Yn 么l yr hanesydd Arnold Toynbee, y traddodiad crefyddol
Celtaidd yw prif nodwedd yr hyn mae e鈥檔 ei alw鈥檔 Wareiddiad y Gorllewin
Pell Ewropeaidd.
A oedd yr eglwysi Celtaidd yn 鈥楤rotestannaidd鈥�?
Pan fo鈥檙 Protestaniaid yn cefnu ar Eglwys Rufain yn yr 16fed ganrif,
maent yn edrych ar yr eglwysi Celtaidd fel enghreifftiau cynnar o
Brotestaniaeth, yn rhydd o feiau eglwys Rhufain. Ond nid yw鈥檙 farn
yna鈥檔 gywir. Y mae athrawiaethau canolog yr eglwysi Celtaidd, ar y
cyfan, yn Gatholig. Nid yw鈥檙 Pab yn amlwg, nid am fod y Celtiaid yn
teimlo eu bod ar wah芒n i鈥檙 Eglwys fyd eang, ond oherwydd pellter,
a鈥檙 ffaith nad yw鈥檙 syniad am sofraniaeth y babaeth wedi ei ddatblygu'n
llawn.
Tarddiad Cristnogaeth Geltaidd
Y
mae tarddiad Cristnogaeth Geltaidd wedi bod yn bwnc cryn ddadlau.
A yw鈥檔 ddatblygiad o鈥檙 Gristnogaeth a blannwyd ym Mhrydain yn nyddiau鈥檙
Ymerodraeth Rufeinig, neu a oes rhaid edrych i gyfeiriadau eraill?
Y duedd bresennol yw credu bod Cristnogaeth Brydeinig yr ymerodraeth
yn goroesi yn ne-ddwyrain Cymru, yr unig ran o Britannia na chafodd
ei goresgyn gan bobl o鈥檙 tu hwnt i ffiniau鈥檙 ymerodraeth. Yma y mae
Dyfrig, y cyntaf o 鈥榮aint鈥� yr Eglwys Geltaidd, yn byw. Yr oedd ei
bencadlys yn Henllan (Hentland on Wye heddiw yn Sir Henffordd.) Ni
ellir pennu dyddiadau pendant yn y cyfnod hwn, ond mae鈥檔 debyg bod
Dyfrig yn byw rhwng 425 a 505.
Y Mynachdy yn Llanilltud Fawr
Olynydd Dyfrig fel y ffigwr amlwg ymhlith Cristnogion Cymru yw Illtud,
sylfaenydd y mynachdy yn Llanilltud Fawr. Gellir cyrraedd Llanilltud
o鈥檙 m么r, ac mae ei draddodiadau yn awgrymu dylanwad pobl oedd yn teithio鈥檙
moroedd. Y maent yn cyflwyno mynachaeth, y syniad mai鈥檙 ffordd orau
i gyrraedd stad o sancteiddrwydd yw trwy ymwadu 芒鈥檙 byd a byw mewn
cymuned sydd yn gwneud gweddi yn ganolbwynt bywyd. Y mae鈥檙 mynachdy
yn Llanilltud yn pwysleisio dysg yn ogystal 芒 defosiwn. Dyma ganolbwynt
Cristnogaeth y gwledydd Celtaidd. Y mae Samson, sefydlydd mynachaeth
yn Llydaw, yn gadael Llanilltud am Lydaw tua 540. Un o鈥檌 gyd-fyfyrwyr
yw Paul Aurelian, a chwaraeodd ran amlwg ym mynachaeth Cernyw, ac
at Illtud a鈥檌 olynwyr y mae鈥檙 Gwyddelod yn troi am arweiniad ar faterion
yn ymwneud 芒 defod a disgyblaeth.
|
 |

|
 漏 MM
|
听 |
听 |
|
|