Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Âé¶¹Éç Cymru'r Byd - Creu Cenedl

Âé¶¹Éç Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

Âé¶¹Éç Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Dyfodiad y Normaniaid
Tapestri Bayeux
Tapestri Bayeux

Pwy oedd y Normaniaid?

Daeth dugiaeth Normandi i fodolaeth yn 911 ar ôl i’r Northmyn neu’r Llychlynwyr ymsefydlu yn Nyffryn y Seine yng ngogledd Ffrainc. Roeddent yn bobl llawn bywyd, eu llywodraeth yn drefnus, ac o ganlyniad y mae Normandi’n datblygu i fod yn un o ranbarthau mwyaf deinamig Ewrop. Mae’n gymdeithas sy’n seiliedig ar ffiwdaliaeth - y mae’r dug yn rhoi digon o dir i’w ddilynwyr i’w galluogi i gynnal marchogion i’w wasanaethu adeg rhyfel. Yn dilyn Brwydr Hastings yn 1066, y mae Gwilym, dug Normandi, yn cael ei goroni’n Gwilym I, brenin Lloegr. Ymhen fawr o dro y mae’n rheoli’i deyrnas i gyd.

Ymosodiadau cynnar y Normaniaid ar Gymru
Digon gwan yw Cymru yn 1066 o ganlyniad i gwymp Gruffudd ap Llywelyn dair blynedd ynghynt. Y mae yna lawer o ymladd mewnol a thywallt gwaed ymhlith y rhai a fynnai fod yn ben cyn bod arweinwyr yn amlygu eu hunain yng Nghymru. Y mae Gwilym yn sefydlu iarllaethau yng Nghaer, Amwythig a Henffordd, lle mae dynion a thueddiadau pur ymosodol wrth y llyw. Gwilym 1 yn cael ei goroni Erbyn 1086 mae iarll Henffordd wedi chwalu brenhiniaeth Gwent, y mae iarll Amwythig wedi codi castell yn Nhrefaldwyn ac wedi meddiannu’r rhan fwyaf o’r tir ar y ffin â Chymru, ac mae iarll Caer wedi cyrraedd yn ddwfn i mewn i Wynedd. Ond mae Gwilym I yn cydnabod awdurdod Rhys ap Tewdwr yn y Deheubarth ac yn derbyn awdurdod Iestyn ap Gwrgant dros Forgannwg. Bu farw’r brenin y 1087. Y mae’r ymosodiadau’n dechrau. Y mae Robert Fitzhammon yn cipio iseldir Morgannwg. Y mae Rhys ap Tewdwr yn cael ei ladd ac mae Brycheiniog yn cael ei feddiannu. Y mae iarll Amwythig yn sgubo trwy Bowys a Cheredigion i dde Dyfed ac yn codi castell ym Mhenfro.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymreig
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru

  4. Dyfodiad y Normaniaid
    Tud 1, Tud 2, Tud 3,

  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
Âé¶¹Éç
© MM
Ìý Ìý


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy