MONDAY 17th November 2014
|  |

 |
Angharad Mair, cyflwynwraigCysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis Mae gen i sawl ffefryn, ond - gydag ymddiheuriadau am y cliché - fy hoff lyfr Cymraeg erioed ydy 'Cysgod y Cryman' gan Islwyn Ffowc Elis. Stori wych, emosiynol a chofiadwy wedi ei hadrodd mewn modd sydd mor syml mewn un ffordd, ac eto mor glyfar mae'n eich tynnu chi i fewn i'r stori nes eich bod chi'n adnabod y cymeriadau fel ffrindiau mynwesol, ac yn syrthio mewn cariad â phrydferthwch yr ardal cystal â hwythau. Mae'n hen bryd i fi ei darllen eto!
 |
  | 
Daf Du, DJ Radio CymruCasglwr, gan Llion Iwan Fy hoff lyfr Cymraeg i ydy 'Casglwr' gan Llion Iwan. Stori dditectif gyfoes wedi'i lleoli yng nghefn gwlad Cymru. Mae'r nofel yn dilyn hanes newyddiadurwr ar bapur lleol sydd ar drywydd 'serial killer'. Nofel hawdd i'w darllen ac amhosib i'w rhoi i lawr ydy hon, a dw i'n edrych ymlaen at yr ail yn y gyfres rŵan, sef Lladdwr.
 |
  | 
John Hardy, cyflwynyddMiss Pringle a'r Tatŵ, gan Harri Parri Prin iawn ydy'r nofelydd all wneud i chi chwerthin yn uchel wrth ddarllen. Mae Harri Parri yn sicr yn un o'r rheiny ac mae ei gasgliad diweddara yn dilyn llwybr llwyddiannus ei waith blaenorol. Cryfder Harri Parri yw ei gymeriadau. Mae trigolion Porth yr Aur yn hen ffrindiau, ac mae darllenwyr cyson yn gyfarwydd â ffaeleddau Jac Blac, Oli Paent a'r Mulligans ond eto'n barod i faddau, a maddau drwy chwerthin yn hytrach na dwrdio. Hiwmor syml, agos atoch chi sydd yma. Ffraethineb cefn gwlad a dawn dweud aruthrol. Mae'r iaith yn ogleddol ond fel yn y clasur 'Uncle Tom's Cabin' mae'n bosib codi'r rhythm drwy ddarllen yn uchel. Neu'n well byth, prynwch gopi o'r CD a chyd-ddarllen gyda champwaith John Ogwen sydd bellach yn llais i gymeriadau unigryw Harri Parri.
 |
|