Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.
MONDAY
17th November 2014
RAW Cymru
pigion raw
Martha, Jac a Sianco
blaenorol 1 | 2 | 3 | 4 | 5 nesaf

Dafydd IwanDafydd Iwan, gwleidydd a chanwr gwlad
Martha, Jac a Sianco, gan Caryl Lewis

Y ddau awdur a roddodd flas imi ar ddarllen yn ifanc oedd T.Llew Jones ac Islwyn Ffowc Elis.

Ond y llyfr sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf arnaf yn ddiweddar yw nofel Caryl Lewis 'Martha, Jac a Sianco'.

Ar yr olwg gynta', mae'r stori'n ddigon cyffredin. Ond mae'r ysgrifennu mor rhwydd a difyr, a'r cymeriadu mor fyw fel na allwch ond ymgolli'n llwyr yn y llyfr.

Yn fy marn i, Caryl Lewis yw un o'r awduron mwyaf cyffrous a gwreiddiol i ymddangos yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.


i fynyUn Nos Dywyll
BeksBeks, cyn gyflwynwraig Âé¶¹Éç Radio Cymru
Un Nos Dywyll, gan T. Llew Jones

Un o fy hoff lyfrau pan oeddwn yn iau oedd 'Un Nos Dywyll' gan T. Llew Jones.

Gan mai fy enw i yw Rebekah roedd wastad gen i ddiddordeb ym Merched Beca!

Pan oeddwn yn blentyn roeddwn yn ymddiddori mewn unrhyw storïau yn ymwneud â thollbyrth.

Mae dawn T.Llew Jones o greu darluniau byw o'r tollbyrth gyda'r nos yn un byw iawn a bron iawn eich bod yn teimlo'n rhan o'r holl hanes.

Roeddwn wastad yn teimlo fy mod i am actio fel cymeriad o un o lyfrau T.Llew Jones - fy hoff awdur Cymraeg heb os!


i fynyBe Bopa Lula'r Delyn Aur
Huw EvansHuw Evans, cyflwynydd Bandit ar S4C
Be Bop a Lula'r Delyn Aur

Mae'r llyfr yma'n anhygo-o-g-oel! Mae'n hawdd i'w ddarllen ac yn llawn ffeithiau diddorol a lluniau gwych o gerddorion Cymru yn eu cyfnod aur.

Rwyf hefyd yn hoffi - hanes y cylchgrawn cerddoriaeth oedd o gwmpas o 1978 I 1985.

Wnes i brynu hwn yn yr Eisteddfod eleni - y £10 gorau dw i 'rioed wedi'i wario mewn Eisteddfod! Mae'n llawn hen erthyglau a lluniau gwych.

Gallwch fynd trwy hwn a thrio dod o hyd i gerddorion ifanc aeth ymlaen i ffurfio grwpiau adnabyddus iawn e.e Gruff Rhys o'r Super Furry Animals fel drymiwr ei fand cyntaf Machlud.




About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý