MONDAY 17th November 2014
|  |

 |
Gethin Jones, cyflwynydd Blue PeterTirlun Cymru, gan David Williams Yn arferol, fy hoff lyfrau yn gyffredinol ydy llyfrau chwaraeon neu hunangofiannau.
Ond yn ddiweddar dw i wedi dod o hyd i lyfr o'r enw Tirlun Cymru gan David Williams
Mae'n llawn lluniau lliw ac mae'r testun dwyieithog yn s么n am dirlun a daearyddiaeth Cymru.
Llyfr perffaith, yn enwedig i beilot sy'n hoffi hedfan hyd a lled y wlad yn ei 'Cessna' bach!
 |
  | 
Si芒n Thomas, cyflwynwraig Radio CymruOmlet, gan Nia Medi Yn aml iawn, fy hoff lyfr i ydy'r ola' i mi ei ddarllen, gan ei fod yn ffres yn y cof, felly mae'r ffefryn yn newid yn gyson. Ar 么l dweud hynny, ma' ambell lyfr yn fythgofiadwy, ac yn ffefryn parhaol. Darllenais 'T芒n ar y Comin' gan T.Llew Jones pan oeddwn i'n ifanc iawn - 'roeddwn wedi fy hudo, ac mae nofelau T.Llew Jones yn dal yn ffefrynnau hyd heddiw. Nid llyfrau plant mohonynt, ond llyfrau sy'n apelio at y plentyn ym mhob un ohonom ni, ac mae hynny'n grefft arbennig iawn. Beth am y ffefrynnau ar hyn o bryd? Mae 'Omlet' gan Nia Medi yn llyfr sy'n codi gw锚n a chodi'r ysbryd. Mae hanes Angharad Austin, athrawes 33 oed, mor ddoniol fel y byddwch yn eich dyblau yn chwerthin o'r dechrau i'r diwedd. Ac un gair o rybudd. Os ydych chi'n ystyried cael triniaeth 'colonic irrigation' - darllenwch hwn yn gyntaf!
 |
  | 
Huw Stephens, DJ Radio 1Theleri Th诺p, gan Dewi 'Pws' Morris Wnes i ddarllen hwn mewn bron iawn i un darlleniad. Mae mor ddoniol - chi'n debygol o chwerthin o leiaf unwaith ar 么l darllen pob tudalen. Mae ffordd Dewi Pws o sgwennu yn debyg iawn i'r ffordd mae'n siarad - yn naturiol a syml ond yn disgrifio a chofio pethe doniol drwy'r amser. Ar 么l ei weld e'n actio ac ar y teledu am flynyddoedd, roeddwn i'n ffan o Dewi Pws ers sbel, ond ddim yn gwybod llawer amdano. Ond mae'r llyfr yn ddiddorol tu hwnt, ac yn llawn stor茂au doniol a difyr!
 |
|