麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.
MONDAY
17th November 2014
RAW Cymru
pigion raw
Raslas Bach a Mawr
blaenorol 1 | 2 | 3 | 4 | 5 nesaf

Gillian ElisaGillian Elisa, actores
Raslas Bach a Mawr, gan Wynford Ellis Owen

Dw i'n hoff iawn o lyfrau sy'n ymwneud 芒 phobl sydd yn perfformio, boed yn actio neu ganu.

Fe wnaeth 'Raslas Bach a Mawr' gan Wynfford Ellis Owen fy nghynhyrfu i gyda'i onestrwydd.

Yr hyn wnaeth fy nharo yn syth yw ei fod mor onest ac yn fodlon trafod ei alcoholiaeth a sut roedd hynny'n effeithio ar ei deulu a'i waith.

Roeddwn i'n methu rhoi'r llyfr i lawr. Mae ambell i lyfr yn gwneud hynna!


i fynyDarnau
Bryn  F么n Bryn F么n, actor a cherddor
Darnau, gan Dylan Iorwerth

Fel llawer byddaf yn prynu tipyn o lyfrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn arbennig llyfrau fydd wedi dod i'r brig yn y cystadlu. Felly ar hyn o bryd rwyf ynghanol cyfrol fuddugol y Fedal Ryddiaith 2005, sef 'Darnau' gan Dylan Iorwerth.

Cyfres o straeon byrion sydd yma a dw i 'di cael blas mawr arnyn nhw.

Mae yna gymaint o amrywiaeth yn y straeon ac yn y sgwennu hefyd - ac mae'r cyfan yn gweithio hefo'i gilydd.

Mae straeon byrion fel hyn yn ffordd wych o gael blas ar ddarllen.


i fynyO Tyn y Gorchydd
Meinir GwilymMeinir Gwilym, cerddor a chyflwynwraig
O Tyn y Gorchydd, gan Angharad Price

Un o'm hoff lyfrau Cymraeg i ydy Cysgod y Cryman, gan Islwyn Ffowc Elis.

Rwy'n edmygu ceinder yr ysgrifennu yn gyntaf, a'r disgrifiadau celfydd.

Ond yn bennaf oll, mae'n stori dda gyda chymeriadau o gig a gwaed sy'n gwneud i chi chwerthin, crio, edmygu, caru a chas谩u.

Edward Vaughan ydy'r dyn mwyaf gosgeiddig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg!

Darllenwch y llyfr yma - clasur Cymraeg! Y nofel hon oedd enillydd Llyfr y Ganrif hefyd gyda llaw.

Yn fwy diweddar, un o'm hoff lyfrau ydy 'O Tyn y Gorchudd' gan Angharad Price - un o'r nofelau gyda'r diweddglo mwyaf annisgwyl i mi ei darllen erioed.




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy