Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

Âé¶¹Éç Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Addysg Ryw

1 Addysg Ryw
2 Cyffuriau a'ch plentyn
3 Ysmygu ac alcohol

Addysg ryw

Bydd y ffordd y mae'ch plant yn cael eu haddysgu am ryw yn cael effaith fawr iawn ar eu hagweddau. Gall rhieni wneud cyfraniad pwysig i ddealltwriaeth plant o ryw a pherthnasoedd, felly nid yr ysgol yn unig sy'n gyfrifol: byddwch yn ddewr!

Pwy ddylai wneud y siarad?
Dengys ymchwil fod plant a phobl ifanc eisiau derbyn eu haddysg gyntaf am ryw a pherthnasoedd nid gan eu hysgol, ond gan eu rhieni a'u teuluoedd. Gall yr ysgol ac oedolion eraill (nyrsys ysgol, meddygon ac yn y blaen) adeiladu ar hyn yn ddiweddarach.

Ond mae llawer o rieni a chynhalwyr yn ei chael yn anodd i siarad gyda'u plant am ryw a pherthnasoedd. Mae tadau, yn enwedig, yn ei chael yn anodd i siarad gyda'u meibion.

Pam bod rhieni mor bwysig
Rhieni/cynhalwyr yw'r bobl allweddol wrth:

  • ddysgu eu plant am ryw a pherthnasoedd
  • cynnal diwylliant ac ethos y teulu
  • helpu eu plant i ddygymod ag agweddau emosiynol a chorfforol tyfu
  • paratoi'r plant ar gyfer her a chyfrifoldebau bywyd.

Gan mai chi sy'n darparu'r amgylchedd diogelaf, bydd plant yn teimlo'n fwy 'diogel' wrth ddysgu 'ffeithiau bywyd' gennych chi, a gallwch chi eu helpu i weld lle mae rhyw yn dod i mewn i'r broses o dyfu a ffurfio perthynas.

Sut i siarad am y pwnc

addysgrywEfallai eich bod yn ei chael yn anodd i siarad, er enghraifft, am enwau cywir rhannau o'r corff, teimladau a pherthnasoedd, neu i ateb cwestiynau am dyfu, cael babi, teimlo atyniad tuag at rywun, rhywioldeb, atal cenhedlu, perthynas ac iechyd rhywiol.

Y peth pwysicaf i'w wneud yw dweud y gwir a bod yn glir, a pheidio a gwneud tybiaethau ynghylch faint y mae'ch plentyn yn ei wybod - mae'n faes lle gall pob math o gamsyniadau ddatblygu'n hawdd iawn, yn enwedig pan fo plant wedi clywed pethau gan eu cyfoedion.

Mae llawer o ffynonellau lle gallwch gael cefnogaeth er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r geiriau iawn. Er enghraifft, mae'n bosib bod gan eich meddygfa, eich clinig iechyd lleol neu'ch adran gwasanaethau cymdeithasol daflenni sydd wedi eu paratoi gan sefydliadau fel y Gymdeithas Cynllunio Teulu ac sy'n cynnwys gwybodaeth i rieni a phobl ifanc. Efallai fod taflenni a llyfrau am y pwnc ar gael hefyd yn eich llyfrgell leol.

Gwefannau defnyddiol:

Gwybodaeth a chyngor am amryw o bynciau.


Cyngor ymarferol ynglyn â siarad â'ch plentyn am bynciau anodd fel rhyw a chyffuriau.

Addysg ryw mewn ysgolion
Bydd gan ysgol eich plentyn bolisi ar addysg ryw - beth sy'n cael ei ddysgu, pa bryd, ac yn y blaen, a gallwch ofyn am gopi. Mae angen i ysgolion weithio mewn cysylltiad agos â rhieni er mwyn sicrhau bod eu haddysg ryw yn ategu'ch rôl chi fel rhiant.

Os byddai'n well gennych chi i'ch plentyn beidio â chymryd rhan mewn addysg ryw yn yr ysgol, mae gennych hawl i dynnu'ch plentyn o ran neu o'r cyfan o'r rhaglen addysg ryw ar wahân i'r rhannau hynny sydd wedi eu cynnwys yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Dyw'r Âé¶¹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 1 o 3|1 2 3 ÌýYn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý