Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

Âé¶¹Éç Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Ymddygiad

1 Ymddygiad - eich dylanwad chi
2 Pennwch ffiniau
3 Byddwch yn gyson

Ymddygiad - eich dylanwad chi

Rydym i gyd am i'n plant ymddwyn yn dda gartref, yn ogystal ag yn yr ysgol, a gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywyd y teulu.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud fel rhiant, hyd yn oed pan fo'ch plant yn fach iawn. Annog eich planti fod â theimladau positif amdanynt eu hunain a hybu ymddygiad da. Dyw hynny ddim yn golygu gadael iddyn nhw wneud fel y mynnont drwy'r adeg, oherwydd mae angen pennu ffiniau a disgyblu mewn ffordd ddefnyddiol. Mae'n ymwneud â'r ffordd rydych chi'n ymddwyn er mwyn creu'r amgylchedd priodol a datblygu perthynas dda gyda'ch plant.

Os ydych yn cael problemau gyda'r ffordd y mae plentyn yn ymddwyn, efallai y byddwch yn penderfynu rhoi cynnig ar drefniadau newydd lle mae rheolau'n cael eu pennu a chithau'n monitro ei gynnydd a'ch cynnydd chi. Mae'n syniad da trafod eich cynlluniau gyda'ch partner, taid a nain neu ffrindiau agos, a chael eu barn a'u cymorth nhw, yn ogystal a'u barn ynghylch y cynnydd sydd wedi ei wneud. Efallai y byddwch yn dewis gwneud hyn pan nad yw'r plentyn o gwmpas, ond ambell waith bydd o gymorth i'ch plentyn os yw'n eich clywed yn canmol ei gynnydd wrth bobl sy'n cyfri. Siaradwch gyda'r athrawon hefyd, a dywedwch wrthyn nhw beth rydych yn ceisio ei wneud. Efallai y gallant weithio gyda chi er mwyn cael ymdrech ar y cyd gartref ac yn yr ysgol.

Datblygu perthynas

Mae cyfathrebu da, a chlir, yn hanfodol:

  • Ydych chi'n dweud wrth eich plentyn beth rydych am iddo ef neu hi ei wneud a pha bryd, neu'n disgwyl iddo/iddi wybod?
  • Pan fyddwch yn siarad gyda phlentyn am ei ymddygiad, byddwch yn glir ac yn gryno. Awgrymwch strategaeth er mwyn cyflawni'r dasg, yn hytrach na dweud y drefn.
  • A ydych yn disgwyl gormod o gofio faint yw oed eich plentyn?
  • A yw'r ffordd o fagu plant wedi newid ers pan oeddech chi'n blentyn? Erbyn hyn mae pobl yn meddwl mai'r ffordd orau o wneud pethau yw trwy egluro sefyllfaoedd a chynnwys plant mewn trafodaethau, yn hytrach na gorchymyn iddyn nhw wneud rhywbeth.
  • Siaradwch gyda rhieni eraill a gofynnwch iddynt hwy sut y maent hwy'n delio gyda sefyllfaoedd.
  • Cynhwyswch y teulu cyfan mewn penderfyniadau, fel bod pob un yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.

Gwnewch amser:

  • Rhowch amser o'r neilltu ar gyfer pob un o'ch plant - mae ar bob un ohonynt angen eich amser. Gall hyd yn oed bum munud o amser wedi ei neilltuo deimlo'n arbennig i blentyn pan fo rhywun yn gwrando arno.
  • Pan fyddwch yn rhoi amser arbennig o'r neilltu, penderfynwch pa bryd y bydd yr amser hwn a chadwch at eich cynlluniau.

Dangoswch eich bod yn eu caru:

  • O safbwynt y plentyn mae angen i gariad fod yn ddiamod, ac ni ddylai fod yn ddibynnol ar ei ymddygiad.
  • Dywedwch wrth eich plentyn eich bod yn ei garu, ac mai ei ymddygiad sy'n wrthun i chi NID y plentyn ei hun. Mewn geiriau eraill, gwahanwch y weithred oddi wrth y person.
  • Ydych chi'n dweud wrth eich plentyn sut rydych yn teimlo amdano? Mae pawb angen clywed hyn o bryd i'w gilydd.

Hybwch hunan-barch ac ymddygiad da:

  • Bydd eich plentyn yn teimlo'n dda os byddwch yn dweud wrtho ei fod yn dda.
  • Peidiwch â chymharu beth mae'ch plentyn chi'n ei wneud â'r hyn y mae plant eraill yn ei wneud - barnwch ef ar sail ei ymddygiad a'i gyrhaeddiad ei hun. Yn fwyaf arbennig, peidiwch â chymharu brodyr a chwiorydd neu byddwch yn dechrau cystadleuaeth na ellir ei hennill!
  • Canolbwyntiwch ar yr hyn sy'n dda. Mae'n hawdd canolbwyntio ar yr ymddygiad drwg yn unig ond gallai ymddygiad 'da' fod yn rhywbeth y mae'ch plentyn yn ei wneud nad yw ond hanner ffordd at fod yn iawn, a dylech bob amser ganmol yr ymdrech. Ambell waith mae ymddygiad da yn gallu bod yn anodd i'w weld, felly edrychwch amdano, ni waeth pa mor fychan ydyw.
  • Anwybyddwch y drwg, oni bai ei fod yn beryglus, gyda phlant ifanc, mae gwneud ffws am ymddygiad drwg yn rhoi sylw iddynt, sef yr union beth y maent am ei gael, a bydd yr ymddygiad yn cael ei ailadrodd.
  • Rhowch ganmoliaeth cyn gynted ag y byddwch yn gweld ymddygiad cadarnhaol fel bod hyn yn annog mwy. Holwch eich plentyn sut y gallai wneud pethau'n well, er mwyn iddo deimlo ei fod yn rhan o'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ynghylch ei ymddygiad.
  • Dylai'r ganmoliaeth fod yn ddidwyll, yn benodol ac ar yr adeg iawn, a dylai wneud i'r plentyn deimlo eich bod yn ei werthfawrogi.

rhan 1 o 3|1 2 3 ÌýYn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý