Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

Âé¶¹Éç Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Siarad

1 Mae'n werth siarad
2 Siarad gyda phobl ifanc
3 Cyngor i bobl ifanc

Mae'n werth siarad

Y ffordd orau o helpu'ch plant i wneud yn dda yn yr ysgol yw'r un sy'n rhoi'r mwyaf o bleser mae'n debyg: po fwyaf o amser rydych yn ei dreulio yn siarad gyda nhw, po fwyaf y byddant yn cynyddu mewn hyder a pho fwyaf o gyfle a gânt i ymarfer sgiliau siarad a gwrando. Mae'r sgiliau hyn yn bwysig iawn ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Mae'n syniad da dal ati i siarad pan fyddwch yn byw gyda phlant yn eu harddegau.

Sesiynau siarad

Mae bywyd teuluol fel arfer yn llawn sgwrsio brysiog, diddiwedd, ond mae'n syniad da dod o hyd i gyfleoedd rheolaidd i eistedd i lawr gyda'ch plant er mwyn siarad. Dylai'r sesiynau hyn ambell waith fod yn gyfarfodydd teuluol lle mae pawb yn cael cyfle i ddweud ei ddweud; ambell waith dylech roi'ch holl sylw i un plentyn. A pheidiwch â phoeni - fe welwch fod digon o bethau i siarad amdanynt.

Os byddwch yn gwneud y sesiynau siarad hyn yn nodwedd reolaidd o fywyd teuluol pan fo'ch plant yn dal i fod yn ifanc, mae'n debyg y byddwch yn gweld ei bod yn llawer haws cyfathrebu gyda hwy pan fyddant yn eu harddegau. Os oes gennych blant yn eu harddegau sy'n gallu siarad gyda'u ffrindiau ar y ffôn am oriau ond sydd prin yn gallu mwmian y mymryn lleiaf o eiriau unsill pan fyddwch chi yn ceisio cynnal sgwrs â nhw, beth ddylech chi ei wneud? Daliwch ati. Cadwch eich synnwyr digrifwch. Cofiwch sut oeddech chi yn eu hoed hwy. A chliciwch yma os hoffech gael cyngor di-flewyn-ar-dafod.

Gwefan ddefnyddiol:
. Cyngor a gwybodaeth pellach am gyfathrebu gyda'ch plentyn.

Siarad a gwrando yn yr ysgol

Efallai fod ysgolion ar un adeg yn credu mai aur pur oedd distawrwydd, ond gallwn eich sicrhau nad felly y mae heddiw. Ochr yn ochr â darllen ac ysgrifennu, mae sgiliau hollbwysig siarad a gwrando yn cael blaenoriaeth uchel gyda phlant o bob oedran ac ar draws y cwricwlwm.

Yn yr ysgol, disgwylir i'ch plentyn:

  • wrando'n astud ar gyfarwyddiadau a chyngor gan athrawon
  • cyfrannu'n wirfoddol i drafodaethau dosbarth
  • siarad o flaen y dosbarth cyfan, yn achlysurol yn unig, ar bwnc o'i ddewis
  • cydweithredu a chydweithio gydag aelodau eraill o'r dosbarth mewn gwahanol fathau o waith grwp
  • ateb cwestiynau athrawon yn rhugl - yr adborth hwn yw'r ffordd fwyaf effeithiol sydd gan yr athro o weld pa mor dda y mae disgybl yn deall pethau
  • cael hyder i ofyn cwestiynau i'r athro/athrawes pan fo angen.

rhan 1 o 3|1 2 3 ÌýYn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý