Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Âé¶¹Éç Cymru'r Byd - Creu Cenedl

Âé¶¹Éç Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

Âé¶¹Éç Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Tywysogaeth Cymru
Tywysog Llywelyn Y Tywysog Llywelyn

Y dywysogaeth
Y mae tywysogaeth Cymru o dan frenhinlin Gymreig yn para am bymtheng mlynedd, er erbyn y pum mlynedd olaf gyda llai o rym. Blynyddoedd yn llawn addewid yw 1267 i 1277, yn awgrymu bod yna yn yr Oesoedd Canol, yr holl elfennau angenrheidiol ar gyfer twf gwladwriaeth. Y mae Llewelyn yn ben ar dros dri chwarter Cymru, ac mae ganddo efallai ddau gan mil o ddinasyddion. Y mae peirianwaith gweinyddol y dywysogaeth yn datblygu ac mae ei llys yn cynhyrchu dogfennau o safon uchel iawn. Amser sydd ei angen i ymsefydlu, ond dyna’r union beth nad yw yn cael ei ganiatáu.

Y peryglon sy’n wynebu’r dywysogaeth
Castell Dolwyddelan Un o anawsterau Llywelyn yw’r ffaith nad ef yw etifedd diwrthwynebiad Llywelyn Fawr. Y mae gan yr ail fab, Gruffudd, dri brawd, ac y mae un ohonynt, Dafydd, yn deyrngar ac yn annheyrngar am yn ail. Y mae rhai o’r mân arglwyddi, yn enwedig Gwenwynwyn o Bowys, yn anfodlon bod gan y tywysog gymaint o bwerau. Y mae’r £20,000 sy’n rhaid eu talu i goron Lloegr yn faich trwm. Gan ei fod yn dal arglwyddiaethau megis Aberhonddu a Maelienydd, mae Llywelyn yn creu gelynion ymhlith y rhai arferai fod yn ben, teuluoedd Bohun a Mortimer. Y mae’r gefnogaeth iddo yng ngogledd Morgannwg yn poeni Gilbert de Clare, arglwydd pwerus Morgannwg. Y mae e’n codi castell Caerffili i rwystro uchelgais y tywysog. Y mae bwriad y tywysog i briodi Elinor, merch Simon de Montfort, yn cythruddo’r brenin newydd. Yn 1274 mae Dafydd a Gwenwynwyn yn ochri gyda Lloegr. Yn 1275 mae’r brenin yn cipio Elinor. Y mae’n galw Llywelyn i dalu gwrogaeth iddo. Gwrthododd Llywelyn ar y sail bod y brenin wedi rhoi noddfa i’w elynion ac wedi cipio ei ddarpar wraig.

Rhyfel 1277 a Chytundeb Aberconwy
Yn 1276 y mae Edward yn cyhoeddi bod Llywelyn yn wrthryfelwr. Y mae’r brenin yn casglu ynghyd y fyddin fwyaf a welwyd ym Mhrydain ers 1066. Erbyn 1277 mae ei luoedd yng Ngwynedd. Ar Ynys Môn, maent yn casglu’r cynhaeaf gan amddifadu’r tywysog a’i filwyr o fwyd, ac y mae Llywelyn yn gorfod ildio. Y mae Cytundeb Aberconwy yn cyfyngu ei awdurdod i’r ardal ar ochr orllewinol Afon Conwy. Dafydd sy’n cael y rhan fwyaf o’r tir i’r dwyrain. Nid yw Llywelyn yn colli’i deitl Tywysog Cymru ond nid yw mwyafrif y mân arweinwyr yn ei gydnabod yn ben. Y mae’r brenin, sydd eisoes â chestyll yn Aberteifi. Caerfyrddin a Threfaldwyn, yn codi caerau yn Aberystwyth, Llanfair ym Muallt, Fflint a Rhuddlan. Ond nid yw’r cyfan ar ben. Y mae gan Llywelyn ei gadarnle yn Eryri a chryn gefnogaeth yng ngweddill Cymru.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymreig
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid

  5. Tywysogaeth Cymru
    Tud 1, Tud 2,

  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
Âé¶¹Éç
© MM
Ìý Ìý


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy