Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Âé¶¹Éç Cymru'r Byd - Creu Cenedl

Âé¶¹Éç Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

Âé¶¹Éç Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Diwedd annibyniaeth Cymru
Castell y Bere Castell y Bere

Cadarnhau’r goresgyniad
Ar ôl rhyfel 1277 yr oedd Edward wedi comisiynu adeiladu pedwar castell sylweddol. Erbyn 1283 mae ei gynlluniau’n fwy uchelgeisiol. Caernarfon, Conwy, Harlech a Biwmares yw’r amddiffynfeydd mwyaf cymhleth i’w codi yn unman yn Ewrop yn y 13eg ganrif. Maent yn deyrnged i sgiliau gweinyddol Edward a dawn ei bensaer James of St George. Maent hefyd yn arwydd o’r oll oedd yn rhaid i’w wneud i dorri gafael y Cymry ar eu gorffennol. Yn gysylltiedig â phob castell y mae bwrdeistref - a rhai fel yng Nghonwy a Chaernarfon oddi mewn i furiau gwych. Y mae masnach yn y tir oddi amgylch yn cael ei reoli gan estroniaid, ac mae hynny’n creu cryn densiwn.

Gwneud y gorau o’r sefyllfa
Cafodd Llywelyn ei ladd yng Nghilmeri Y mae drwgdeimlad yn amlwg yng Nghymru yn y ganrif wedi 1282. Mae i’w weld yn llenyddiaeth y cyfnod, yn enwedig yn y canu brud sy’n sôn am un a ddaw yn waredwr. Mae’n mynegi ei hunan yng ngwrthryfel Rhys ap Maredudd yn 1287, Madog ap Llywelyn yn 1294 a Llywelyn Bren yn 1316. Mae’r anniddigrwydd yn lled gyffredin yn y 1340au ac eto yn y 1370au pan fo Owain Lawgoch, wyr Rhodri, brawd Llywelyn, yn ceisio cymorth y Ffrancod i adennill ei hawliau teuluol yng Nghymru. Eto, roedd y Cymry’n ymwybodol bod rhaid iddynt wneud y gorau o’u byd fel ag yr oedd. Gan fod ganddynt gryn brofiad o ryfela maent yn cael digon o gyfle proffidiol i wasanaethu yn lluoedd brenin Lloegr, neu, fel yn achos Owain Lawgoch ac eraill, yn lluoedd brenin Ffrainc. Er mai aristocratiaid Eingl-Normanaidd yw’r prif swyddogion yng Nghymru ar y cyfan, o rengoedd yr uchelwyr Cymreig y daw llawer o’u dirprwyon, yn awyddus i fanteisio ar bob cyfle i ychwanegu at eu pwer a’u cyfoeth. Plygu i’r drefn felly, weithiau’n daeogaidd, weithiau’n surbwchaidd, yw prif nodwedd Cymru’r 14eg ganrif. Ond yna, ar ddechrau’r ganrif nesaf, gwrthryfel arall wrth i Owain Glyndwr gamu i’r llwyfan.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru

  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
    Tud 1, Tud 2,

  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
Âé¶¹Éç
© MM
Ìý Ìý


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy