Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Âé¶¹Éç Cymru'r Byd - Creu Cenedl

Âé¶¹Éç Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

Âé¶¹Éç Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
Bedd Dafydd ap Gwilym Bedd Dafydd ap Gwilym (1320-1380)

Cymdeithas yn tyfu

Wrth i’r hinsawdd wella a’r economi ddatblygu mae poblogaeth Cymru, yn ôl pob tebyg, yn dyblu rhwng 1050 a 1300. Oherwydd y cynnydd mae yna fwy o ddefnydd yn cael ei wneud o’r tir, fforestydd yn cael eu torri i lawr, pentrefi’n cael eu datblygu, melinau’n cael eu codi, a strwythur cymdeithasol mwy soffistigedig yn cael ei ddatblygu.

Tro ar fyd
Ond mae’r hinsawdd yn newid ar ôl tua 1300. Hafau gwlyb, heintiau yn effeithio ar anifeiliaid, a gor-ddefnydd o’r tir sy’n achosi problemau cynyddol. Erbyn 1320 mae rhif y boblogaeth yn lleihau, ac ni fyddai’n cyrraedd lefel 1300 am 250 o flynyddoedd.

Yna yn 1349, trychineb enfawr. Mae’r Pla Du yn lladd efallai traen o’r boblogaeth, ac mae’n taro eto yn 1361 a thrachefn yn 1369. Y mae colli cynifer o bobl yn cael effaith bellgyrhaeddol. Eglwys LlanbadarnY mae’r aflwydd yn arwain at obsesiynau morbid a gobeithion am y milflwydd. Oherwydd marwolaeth cynifer o daeogion mae yna alw am weithwyr rhydd, ac mae hynny’n tanseilio’r gwahaniaeth rhwng y rhydd a’r caeth. Y mae marwolaethau ymhlith y boneddigion yn arafu ac atal yr arferiad o rannu eiddo. Mae llawer yn ceisio dal gafael ar eu tir yn unol â Chyfraith Lloegr, sy’n caniatáu iddynt adael y cyfan i’r mab hynaf, proses sy’n arwain at greu stadau anferth. Yn lle’r hen ffordd o wahaniaethu ar sail teulu daw ffordd newydd o wahaniaethu ar sail cyfoeth.

Adferiad
Ganrif ar ôl y Pla Du y mae yna arwyddion o adfywiad economaidd. Mae patrwm o fasnach yn seiliedig ar wartheg a defaid yn dod i’r amlwg, patrwm fyddai’n ganolog i’r economi tan y Chwyldro Diwydiannol. Mae porthmyn yn gyrru gwartheg ar draws Cymru i’r ffeiriau mawr yn ninasoedd Lloegr, a gwerthiant gwartheg fyddai’n dod ag arian i’r ardaloedd gwledig. Mae mwy o felinau gwlân yn cael eu hagor, a gwlanen yn cael ei werthu yn y marchnadoedd Seisnig ar y Gororau, Amwythig yn fwyaf arbennig. Gyda’r adfywiad economaidd daw gwell tai - megis y tai hanner-pren a godwyd ger y ffin. Yn gynnar yn yr 16eg ganrif yr oedd poblogaeth Cymru tua 260,000 o’i gymharu â thua 300,000 yn 1300.

Diwylliant
Llyfr Gwyn RhydderchGwaith Y Cynfeirdd yw’r llenyddiaeth gynharaf, sy’n cynnwys beirdd yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn ne’r Alban. Y mae’r Gogynfeirdd yn perthyn i’r cyfnod 1100 i 1300, ac maen nhw’n cael nawdd y tywysogion Cymreig. Marwnad Gruffudd ap Yr Ynad Goch i Llywelyn ap Gruffudd mae’n debyg yw cerdd orau’r Gogynfeirdd. Diflannodd y tywysogion a daw’r uchelwyr i gymryd eu lle fel noddwyr. Y mae eu beirdd hwy yn cynhyrchu gwaith nodedig, yn enwedig felly Dafydd ap Gwilym (tua 1320-70). Ysgrifennu yn y mesur caeth mewn cynghanedd mae’r beirdd. Clawr y MabinogionMae rhyddiaith y cyfnod yn cynnwys Y Mabinogi, cadwyn o storïau, a phrif gyfraniad y Cymry i lenyddiaeth Ewrop ym marn llawer. Hefyd cawn weithiau crefyddol, hanesyddol a mytholegol. O ran cerddoriaeth, dawn fwyaf y Cymry yw canu mewn harmoni - dawn ddaliodd sylw Gerallt Gymro yn y 1190au. Cynhyrchwyd gwaith pren o safon arbennig iawn, yn enwedig croglenni’r 15fed ganrif. Mae yna gerfluniau safonol ar feddau, er enghraifft, yn Eglwys Fair yn Y Fenni, ac mae’r mynachlogydd a’r cestyll yn tystio i ddawn y seiri maen Cymreig. Y mae Gresffordd, eglwys y plwyf mwyaf cain Cymru, yn adeilad hardd i’w ryfeddu.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru

  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
    Tud 1, Tud 2,

  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
Âé¶¹Éç
© MM
Ìý Ìý


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy