Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Âé¶¹Éç Cymru'r Byd - Creu Cenedl

Âé¶¹Éç Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

Âé¶¹Éç Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Dyfodiad y Tuduriaid
a'r Ddeddf Uno

Portread o Elizabeth I gan Van der Meulen
Portread o Elizabeth I gan Van der Meulen

Yr Iaith a Deddf 1536

Y mae tua 7,500 o eiriau yn neddf 1536, ac mae tua 150 yn ymwneud â’r iaith Gymraeg. Cafodd y canran bychan yna, dim ond 2% cant o’r holl statud, fwy o sylw na’r gweddill. Saesneg fydd unig iaith y llysoedd yng Nghymru, ac nid yw’r rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg i gael swydd gyhoeddus yn nhiriogaethau brenin Lloegr. Ag eithrio de Sir Benfro, de Gwyr, rhannau o Fro Morgannwg a rhai ardaloedd ger y ffin, y Gymraeg yw unig iaith mwyafrif y Cymry. Felly, mae’n amhosib gwahardd y Gymraeg o’r llysoedd, ac mae'n rhaid gwneud defnydd helaeth o gyfieithwyr. Nid yw’n debygol mai lladd yr iaith oedd bwriad yr awdurdodau Seisnig. Gweinyddiaeth unffurf yw eu nod, ac ymhlyg yn hynny, y mae creu gweinyddwyr Cymreig sy’n siarad Saesneg. Yn 1536 mae nifer arwyddocaol o uchelwyr Cymreig eisoes yn medru’r iaith. Mae’r cyfartaledd yn cynyddu’n gyflym ar ôl hynny, ond fe gymer ddwy ganrif cyn i Saesneg gymryd lle’r Gymraeg ar aelwydydd y sgweieriaid.

Deddf 1543
Y mae diffyg manylder yn neddf 1536. Unionir y cam mewn deddf arall yn 1543. Mae’n sefydlu’r Sesiwn Mawr, trefn gweinyddu barn yng Nghymru yn seiliedig ar bedair cylchdaith o dair sir: Ynys Môn, Caernarfon a Meirionydd; Fflint, Dinbych a Threfaldwyn; Maesyfed, Brycheiniog a Morgannwg; Aberteifi, Caerfyrddin a Penfro. Gan nad yw Mynwy yn rhan o’r patrwm, cyfyd y syniad nad yw’r sir yn rhan o Gymru. Ond mae hynny’n ddi-sail, ac yn ddiystyr hefyd pan ddiddymir y Sesiwn Mawr yn 1830. Elizabeth 1afO ran y deddfau penodol Cymreig sy’n cael eu pasio rhwng 1536 a 1830 mae’r sir, fel rheol, yn cael ei ystyried yn rhan o Gymru. Y mae deddf 1536 hefyd yn cydnabod Cyngor Llwydlo, corff sydd â chryn bwerau gweinyddol a chyfreithiol nes ei ddiddymu yn 1689. Yn ychwanegol, mae’r ddeddf yn cynyddu nifer yr aelodau seneddol Cymreig i dri deg saith drwy ganiatáu aelod i fwrdeistref Hwlffordd.

Y drefn newydd yn gwreiddio
Erbyn teyrnasiad Elisabeth mae trefn y Tuduriaid, yn gyffredinol, wedi ennill ei phlwyf yng Nghymru. Y mae ynadon heddwch yn cael eu dewis o blith rhengoedd yr uchelwyr. Fe roddodd y Tuduriaid i’r Cymry, meddai sylwedydd yn y cyfnod, George Owen o’r Henllys (Sir Benfro) ynadon o blith eu cenedl eu hunain. A chan eu bod wedi’u penodi i weinyddu’r gyfraith, y mae’n rhaid iddynt hwythau newid eu ffyrdd. Mae deddfau 1536 a 1543 yn ychwanegu at eu hawliau dros y dosbarthiadau cymdeithasol oddi tanynt. O dan Gyfraith Lloegr mae ystâdau’n cael eu trosglwyddo’n gyfan i’r mab hynaf, gan roi mwy a mwy o’r tir yn nwylo llai a llai o bobl. Am y 250 mlynedd nesaf o leiaf, y mae hanes Cymru’n ymwneud yn bennaf â’r tirfeddianwyr. Maent yn clodfori’r mesurau Tuduriaid sy’n dileu’r amwysedd ynglyn â statws y Gymraeg. Saeson yw’r Cymry yng ngolwg y gyfraith. Eto, gellir dadlau bod pawb sy’n byw yng Nghymru o hyn allan yn Gymro - ac fe fydd cenedlaethau i ddod yn adeiladu ar yr egwyddor yna.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr

  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
    Tud 1, Tud 2,

  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
Âé¶¹Éç
© MM
Ìý Ìý


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy