MONDAY 17th November 2014
|  |

 |
Ray Gravell, cyn chwaraewr rygbi a darlledwrStraeon o'r Strade, gan Alun Wyn Bevan
'West is best!' Ac mae'r 'best' yn y Strade bob amser!
Mae'r cyfan yma, yn cynnwys rhai o'r gemau cofiadwy dros y blynyddoedd - yn gemau rhyngwladol, cynghrair a chwpan a hefyd rhai o'r s锚r fu'n chwarae dros y blynyddoedd.
Does dim angen dweud mwy. Cefnogwch rygbi a joiwch y llyfr.
 |
  | 
Geraint Lovgreen, cerddorY Blew a Buddugoliaeth Gwynfor, gan Dafydd Evans Ar hyn o bryd y llyfr rydw i'n dweud wrth bawb "rhaid i chi ddarllen hwn" ydy Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor gan Dafydd Evans, sef pigion o ddyddiaduron yr awdur o ganol y 1950au tan y 60au hwyr. Swnio'n ddiflas? Dim o gwbl! Mae'n dalp o hanes cymdeithasol sydd nid yn unig yn hawdd i'w ddarllen, ond hefyd yn wirioneddol ddoniol mewn sawl man. Mae hefyd yn rhoi darlun eithaf gwahanol i ni o'r eicon cenedlaethol Gwynfor Evans. Felly os ydych chi eisiau darllen hanes cyffrous ffurfio'r band roc Cymraeg cyntaf, neu ddim ond eisiau pendroni ynghylch ystyr 'the Welsh Weeth', rhaid ichi ddarllen hwn.
 |
  | 
Hywel Gwynfryn, darlledwrHanes Cymru, gan John Davies 'Roeddwn i'n cas谩u Hanes fel pwnc yn yr ysgol! Pam? Oherwydd ein bod ni'n dysgu am hanes Lloegr.
Fe gaem wersi am frenhinoedd fel Harri'r wythfed, ond 'doedd dim son am Owain Glyndwr, a neb yn crybwyll Llywelyn Fawr. Diolch i'r drefn mae'r sefyllfa wedi newid erbyn heddiw, ac mae 'na lawer mwy o bwyslais ar ddysgu hanes Cymru - a'r beibl wrth gwrs ydy Hanes Cymru gan John Davies. Dyma lyfr sy'n gyffrous i'w ddarllen, yn llawn gwybodaeth hanfodol i unrhyw un sydd eisiau ymdeimlo a'i orffennol fel Cymro. Hwn ydy un o lyfrau mawr yr ugeinfed ganrif - mewn unrhyw iaith.
 |
  | 
Ywain Gwynedd, prif leisydd y gr诺p pop FrizbeeCyw D么l, gan Twm Miall Yr unig lyfr i mi ddarllen ar fy liwt fy hun ydy 'Cyw D么l' gan Twm Miall. Roedd yn apelio ataf gan fod y nofel wedi ei selio ar gymeriadau fy mro enedigol, sef Blaenau Ffestiniog. Hefyd gan ei bod yn llawn hiwmor. Dwi'n siwr fod y ffaith ei bod wedi ei ysgrifennu'n gwbl ffonetig yn helpu hefyd!
 |
|