Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

Âé¶¹Éç Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Annog i Ysgrifennu

1 Annog plant i ysgrifennu
2 Ysgrifennu'n well

Sut all fy mhlentyn i ysgrifennu gwell storïau?

Mae ffyrdd o ysgrifennu gwell storïau. I ddechrau, os yw plant yn darllen llyfrau da, byddant yn ysgrifennu gwell storïau, ac yn cael eu hysgogi i ysgrifennu am eu profiadau eu hunain. Gall darllen gyda'ch plentyn helpu i ddatblygu'r math hwn o ddiddordeb.

Dyma rai awgrymiadau ymarferol ar gyfer ysgrifennu storïau i helpu plant:

  • Peidiwch ag ysgrifennu am ormod o gymeriadau - mae dau neu dri yn ddigon. Oni bai eich bod yn disgrifio rhywbeth sydd wedi digwydd o ddifrif, dylech ymwrthod â'r demtasiwn i'ch rhoi chi eich hun a'ch ffrindiau yn y stori. Defnyddiwch eich dychymyg i greu cymeriadau newydd.
  • Dechreuwch eich brawddegau ag amrywiaeth o eiriau (mae'n hawdd iawn dechrau dro ar ôl tro gyda'r person rydych yn ysgrifennu amdano, gan wneud y peth braidd yn ddiflas: 'Mae Bryn yn codi ac yn bwyta'i frecwast. Mae Bryn yn mynd i'r dref. Mae Bryn yn cyfarfod Ann.' Yn lle hynny, beth am newid ychydig ar drefn y geiriau: 'Ar ôl iddo fwyta'i frecwast, aeth Bryn i'r dref. Dywedodd Ann helo wrtho ar ôl iddo gyrraedd.')
  • Cadwch y dechrau (lle rydych yn cyflwyno'r darllenydd i'r cymeriadau a'r lleoliad) a diwedd y stori yn fyr. Dylai'r rhan fwyaf o'r stori fod yn y canol, lle mae pethau'n digwydd a lle mae'r cymeriadau'n meddwl ac yn teimlo.
  • Rhowch broblem i'ch prif gymeriad ei datrys ar ddechrau'ch stori - yna bydd y darllenydd eisiau dal i ddarllen hyd y diwedd er mwyn gweld sut mae'r broblem yn cael ei datrys.
  • Cyn i chi ddechrau, dylech wybod beth sy'n digwydd ar ddiwedd y stori, fel nad ydych yn cynnwys manylion nad oes a wnelont ddim byd mewn gwirionedd â'r diwedd.
  • Cyfyngwch eich deialog i bedwar darn o gyfnewid geiriau mewn paragraff. Mae gormod o ddeialog yn gwneud storïau'n anodd i'w darllen.
  • Mae stori fer a diddorol yn llawer gwell nag un hir a diflas!
  • Darllenwch eich stori'n ofalus cyn ei dangos i rywun arall, er mwyn gweld a oes angen i chi newid rhywbeth.

Sut mae modd eu cyhoeddi?
Yn falch o'r hyn y maent wedi ei wneud? Mae gwaith ysgrifenedig angen darllenwr. Mae plant wrth eu bodd yn gweld eu gwaith yn cael ei arddangos ar waliau a drysau lle gall pobl eraill ei ddarllen. Y dyddiau hyn, mae llawer o lefydd lle gellir cyhoeddi gwaith plant ar y rhyngrwyd. Felly beth am eu hannog?

Gwefan ddefnyddiol:
bbc.co.uk Cbeebies
Cyngor a gwybodaeth ynglyn â helpu'ch plentyn i ysgrifennu.

Dyw'r Âé¶¹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 2 o 2|1 2 ÌýYn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý