Yn anffodus, mae'r We Fyd-eang, fel y byd mawr ei hun, yn gallu bod yn lle peryglus. Mae rhieni'n iawn i boeni am yr hyn y gallai eu plant ei weld yno. Mae nifer o gigabeitiau wedi eu neilltuo i bornograffi difrifol, lluniau o drais, ymosodiadau hiliol, hyrwyddo camddefnyddio cyffuriau a chanllawiau manwl yn nodi sut i gyflawni pob mathau o droseddau.
Ac yn waeth byth, mae'r Rhyngrwyd wedi bod yn dir hela amlwg i baedoffiliaid sy'n chwilio am unigolion hawdd i'w dal. Yn ôl gwaith ymchwil a wnaethpwyd yn Ysgol Economeg Llundain, mae 90% o'r plant 10-16 oed wedi gweld pornograffi ar y Rhyngrwyd, ac mae dieithriaid wedi ceisio cynnal sgwrs ag oddeutu 50% ohonynt mewn ystafelloedd sgwrsio.
Ond, wrth gwrs, mae'r We Fyd-eang hefyd yn lle rhyfeddol. Ni waeth pa mor bryderus yw rhieni, ni fyddant am amddifadu eu plant o'r cyfleoedd addysgol y mae'n eu cynnig. Mae rhagofalon y gallwch eu cymryd. Mae modd rheoli syrffio'ch plant, cyfyngu ar y safleoedd y gallant ymweld â nhw, a gwneud eich plant yn ymwybodol o beryglon posibl "cyfarfod" dieithriaid ar-lein.
Rheoli ymweliadau
Mae meddalwedd soffistigedig fel yn gweithio fel rhyw fath o Frawd Mawr ac yn cadw golwg ar y safleoedd y mae'ch plant wedi ymweld â hwy, fel bod modd i chi wybod sut yn union y maent yn treulio'u hamser ar-lein.
Mae ffordd haws: gosodwch y cyfrifiadur yn yr ystafell fyw. Os byddwch yn gwneud hynny, gallwch gadw llygad anffurfiol ar eu teithiau rhithwir a bydd plant yn mynd i'r arferiad o feddwl am syrffio fel gweithgaredd i'w rannu. Anogwch hwy i siarad am y safleoedd y maent yn ymweld â hwy, y bobl y maent yn eu cyfarfod mewn ystafelloedd sgwrsio neu'r negeseuon e-bost annisgwyl y maent yn eu derbyn. Os ydynt yn dod ar draws deunydd sy'n peri tramgwydd, trafodwch y mater gyda hwy.
Gallwch gael mwy o gyngor drwy gysylltu â , , , , a lle gallwch lwytho pecyn yn ymwneud â diogelwch ar yr uwchbriffordd i lawr.
Ac os yw'n well gennych gael llyfr hen-ffasiwn, beth am gan Parry Aftab.
Cyfyngu ar ymweliadau
Mae dewis eang o becynnau sydd wedi eu cynllunio er mwyn cyfyngu ar y deunydd y gellir ei weld ar y cyfrifiadur cartref. Trafodir llawer ohonynt yn . Fodd bynnag, cyn i chi wario arian ar unrhyw un ohonynt, mae'n werth ymweld â .
Sefydliad annibynnol yw'r PIN sydd wedi asesu 14 o'r didolwyr rhyngrwyd mwyaf poblogaidd hyn gan ddod i'r casgliad "na all rhieni ddibynnu ar unrhyw un ohonynt fel yr ateb perffaith - nid yw'r rhan fwyaf o'r rhaglenni'n gweithio mor effeithiol â'r hyn a hysbysebwyd. Nid oes unrhyw un ohonynt yn darparu ateb parhaol i rieni".
Felly peidiwch â rhoi gormod o ffydd mewn unrhyw ddarn unigol o feddalwedd. Bydd plant bob amser yn cael eu temtio i chwilio am safleoedd drwg, ond mae'n achosi llawer mwy o boen pan fônt yn dod ar eu traws yn ddamweiniol. Y ffordd hawsaf o ddelio gyda hyn yw drwy fynnu mai dim ond cyfryngau chwilio sydd â didolwr ynddynt y maent yn eu defnyddio. Mae'n debyg mai'r un gorau yw . Mae'r cyfryngau chwilio amrywiol sydd wedi eu llunio'n benodol ar gyfer plant yn well fyth.
Dyw'r Âé¶¹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol