Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

Âé¶¹Éç Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Diddordebau

1 Rhieni gorawyddus
2 Annog diddordebau arbennig
3 Cadw'n heini

Annog diddordebau arbennig

O ganlyniad i bwysau gan gyfoedion i fod yn un o'r criw, neu o ganlyniad i reolau ysgol sy'n mynnu bod pawb yn cydymffurfio, am y rhan fwyaf o'r diwrnod bydd eich plentyn yn ceisio bod yr un fath â phawb arall. Gartref, ar y llaw arall, mae ganddynt ryddid i ddilyn eu diddordebau eu hunain a datblygu talentau arbennig.

Wrth gwrs, mae'n bosib na fyddant yn rhannu'r un diddordebau â chi. Ond brathwch eich tafod a byddwch yn falch bod eich plentyn wedi dod o hyd i rywbeth y mae'n ei fwynhau, a helpwch ef/hi i'w wneud. Peidiwch â phoeni ychwaith os nad yw'r diddordeb yn ymddangos yn un 'addysgol' iawn. Os yw'n arwain y plentyn i chwilio am wybodaeth, i siarad am rywbeth, i ddarllen a gwneud nodiadau, i gasglu a threfnu deunydd, bydd yn ymarfer sgiliau pwysig a fydd yn ddi-os o fudd i waith ysgol.

Anogwch eich plentyn i ddefnyddio'r llyfrgell, a helpwch ef/hi i ddod o hyd i'r safleoedd mwyaf priodol ar y rhyngrwyd. Prynwch gylchgronau arbenigol iddo/iddi. Hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn rhy anodd, bydd brwdfrydedd dros y pwnc yn ei gymell i ddal ati gydag iaith a chysyniadau anodd.

Ceisiwch gael eich plentyn i anelu'n uchel - er enghraifft, yn hytrach na dim ond addoli seren bop fel arwr, anogwch ef/hi i ddysgu chwarae offeryn a dod yn seren ei hun. Helpwch hwy i gredu ynddynt eu hunain: y gallant, â digon o waith caled a brwdfrydedd, wireddu eu breudwydion.

Os ydych am helpu eich plentyn i ragori mewn rhyw weithgaredd, mae digon o sefydliadau sy'n barod i helpu. Ac wrth gwrs, efallai mai'r hyn a allai ennyn y brwdfrydedd mwyaf ynddynt yw cadw anifail anwes.

Eu helpu hwy i helpu eu hunain

diddordebauMae'r teledu yn ffynhonnell ddi-ben-draw ar gyfer syniadau, ysbrydoliaeth a gwybodaeth. Ceisiwch ailddyfalu pa raglenni a allai fod o ddiddordeb i'ch plentyn ryw ddiwrnod. Recordiwch hwy ac adeiladwch eich llyfrgell fideo eich hun. Mae yn cynnwys newyddion am raglenni sydd i ddod ar y Âé¶¹Éç.

Mae llawer o adnoddau ar gael yn eich llyfrgell leol. Mae llyfrgellwyr yn aml yn dda iawn am ddod o hyd i'r union lyfr ar gyfer plentyn. Mae system fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd hefyd yn golygu y gallwch ofyn am lyfrau o lyfrgelloedd eraill. Ar gyfer llyfrau Cymraeg a llyfrau â gogwydd Cymreig edrychwch ar wefan .

Mae mudiadau fel y Sgowtiaid, y Geidiaid, Brigâd y Bechgyn a'r yn cyflwyno aelodau i amrediad eang o ddiddordebau amser hamdden.

Anogwch eich plentyn i ymuno ag un o'r mudiadau elusennol. Mae gan y rhai mwyaf, fel yr RSPCA, adrannau ieuenctid. Ymwelwch â er mwyn gweld cronfa ddata yn rhestru mudiadau gan gynnwys y rhai hynny sydd â changhennau yn eich ardal chi.

Gall mynd am dro fel teulu gyfuno hwyl â'r cyfle i ddysgu rhywbeth newydd. Mae awgrymiadau am lefydd da i fynd iddynt yng Nghymru yn .

Ac, wrth gwrs, mae popeth y gallai plentyn fod eisiau ei wybod am unrhyw beth dan haul ar gael rywle ar y We Fyd-eang. Gwnewch yn siwr bod eich plentyn yn gwneud y gorau o'r we.

Dyw'r Âé¶¹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 2 o 3|1 2 3 ÌýYn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý