Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

Âé¶¹Éç Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Sut mae plant yn dysgu

1 Sut mae plant yn dysgu
2 Arddull dysgu eich plentyn chi
3 Helpu'ch plentyn i ddysgu

Beth yw arddull dysgu'ch plentyn chi?

Gall sylweddoli'n gynnar pa arddull dysgu y mae'ch plentyn chi'n ei ffafrio eich helpu i'w annog i ddysgu pan rydych yn gweithio gydag ef gartref. Mae hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol o'ch arddull chi - gallai wrthdaro ag arddull eich plentyn.

Pa arddull dysgu yw eich un chi? - (neu pa rai - efallai eich bod yn defnyddio cyfuniad). Sut mae'ch plentyn yn wahanol i chi a sut allwch chi ddefnyddio'ch cryfderau chi a'i gryfderau ef mewn modd ategol er mwyn ei helpu i ddysgu gartref?

Arddulliau dysgu

Mae seicolegwyr wedi categoreiddio arddulliau dysgu mewn sawl ffordd, ond dyma un ffordd o edrych ar bethau, a phedair arddull i ddewis ohonynt:

1. Dysgwr gweledol

  • Angen gweld pethau ac yn hoffi gweld pethau
  • Yn dysgu drwy ddelweddau - yn gallu cofio'r lluniau ar dudalen
  • Yn mwynhau celf a thynnu lluniau
  • Yn darllen mapiau, siartiau a diagramau'n dda
  • Â diddordeb mewn peiriannau a dyfeisiau
  • Yn chwarae gyda Lego a theganau adeiladu eraill, ac yn hoffi jig-sos
  • Yn gallu bod yn freuddwydiwr yn y dosbarth

Er mwyn annog dysgu:

  • Defnyddiwch gemau bwrdd a gemau cofio i greu patrymau gweledol
  • Awgrymwch gliwiau gweledol wrth ddarllen gyda'ch gilydd - gadewch i'ch plentyn 'beintio' ei luniau ei hun yn ei feddwl wrth iddo ddarllen y stori
  • Cynigiwch lyfrau lluniau o bob math, hyd yn oed wrth i'r plentyn fynd yn hyn
  • Anogwch y plentyn i ddychmygu'r stori ac ategwch hyn bob yn ychydig
  • Anogwch y plentyn i ysgrifennu drwy ddefnyddio gwahanol liwiau i ysgrifennu
  • Dysgwch dechnegau 'mapio meddwl' i blant hÅ·n, er mwyn eu helpu i ddysgu a galw gwybodaeth gymhleth i gof
  • Dangoswch fideos o ddramâu, ffilmiau ac yn y blaen er mwyn ategu'r storïau maent yn eu hastudio

2. Dysgwr cinesthetig

  • Yn prosesu gwybodaeth drwy deimladau corfforol
  • Eisiau rhywbeth i'w wneud o hyd, ddim yn gallu eistedd yn llonydd am lawer o amser
  • Yn cyfathrebu drwy ddefnyddio iaith corff ac ystumiau
    sos
  • Yn dangos i chi yn hytrach na dweud wrthych
  • Eisiau cyffwrdd a theimlo'r byd o'i gwmpas
  • Yn dda am ddynwared eraill efallai
  • Yn mwynhau chwaraeon neu weithgareddau eraill lle gall symud o hyd

Er mwyn annog dysgu:

  • Mae symudiadau'n helpu'r plant hyn - gadewch iddynt symud o gwmpas ar ôl ychydig tra maent yn astudio
  • Gall gwm cnoi, cael dwdlan neu chwarae gyda rhywbeth fel mwclis eu helpu i ganolbwyntio
  • Defnyddiwch arbrofion a gweithgareddau ymarferol, prosiectau celf, teithiau natur neu gyfle i actio storïau, er mwyn iddynt allu 'teimlo' y gweithgareddau
  • Osgowch bethau nad ydynt yn eu hoffi - cynlluniau tymor hir, prosiectau cymhleth, tasgau papur a phensel, llyfrau gwaith.

3. Dysgwr clywedol

  • Yn meddwl mewn geiriau ac yn troi cysyniadau'n eiriau
  • Yn sillafu geiriau'n gywir ac yn rhwydd, gan eu bod yn gallu clywed y gwahanol synau felly'n tueddu i ddysgu'n ffonetig yn hytrach na thrwy dechnegau 'edrych a dweud'.
  • Yn gallu bod yn ddarllenwr da, er bod yn well gan rai y gair llafar
  • Yn gallu cofio enwau, dyddiadau a manion bethau'n dda iawn
  • Yn hoffi gemau geiriau
  • Yn mwynhau defnyddio peiriant recordio ac yn aml iawn â thalent gerddorol
  • Fel arfer yn gallu dysgu tablau'n weddol hawdd

Er mwyn annog dysgu:

  • Eu hannog i greu problemau geiriau eu hunain
  • Gofynnwch iddynt ddweud stori wrthych chi a gwylio tra rydych chi'n ei hysgrifennu/teipio
  • Darllenwch yn uchel gyda'ch gilydd a thapiwch sesiynau er mwyn eu chwarae'n ôl yn nes ymlaen
  • Prynwch neu benthycwch lyfrau ar dâp iddynt
  • Ar gyfer plant hyn, recordiwch wybodaeth ar dapiau.

4. Dysgwr rhesymegol

  • Yn meddwl mewn cysyniadau, yn hoffi archwilio patrymau a chysylltiadau
  • Yn mwynhau posau a gweld sut mae pethau'n gweithio
  • Yn gofyn cwestiynau ac yn meddwl o hyd
  • Yn hoffi cysondeb a threfniadau arferol
  • Yn gallu meddwl yn rhesymegol mewn ffyrdd haniaethol iawn yn ifanc
  • Yn gwneud symiau pen yn hawdd
  • Yn mwynhau gemau strategaeth, cyfrifiaduron ac arbrofion gyda phwrpas
  • Yn creu ei gynlluniau ei hun i'w hadeiladu gyda blociau/Lego
  • Ddim cystal am bethau mwy 'creadigol'.

Er mwyn annog dysgu:

  • Gwnewch arbrofion gwyddonol gyda'ch gilydd a gofynnwch iddynt gofnodi'r canlyniadau. Am wybodaeth ynglyn ag astudio gwyddoniaeth gyda'ch plentyn, ewch i'r wefan
  • Defnyddiwch gemau dysgu a phosau geiriau cyfrifiadurol fel y rheiny ar
  • Cyflwynwch lyfrau ffeithiol a llyfrau odlau.

rhan 2 o 3|1 2 3 ÌýYn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý