Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

Âé¶¹Éç Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Gwaith Cartref

1 Gwaith cartref
2 Helpu i astudio
3 Gwaith cwrs

Gwaith cwrs TGAU, Safon Uwch a Safon Uwch Atodol

Fel pe na bai bywyd yn ddigon anodd yn barod i bobl ifanc yn eu harddegau, mae'n ofynnol i blant o Flwyddyn 10 ymlaen gwblhau gwaith cwrs ar gyfer llawer o'r pynciau y maent yn eu hastudio. Ac mae'n bwysig: mewn rhai pynciau, mae cymaint â 30% o'r marciau am waith cwrs yn hytrach na'r arholiad terfynol.

Gall cwblhau'r gwaith cwrs hwn fod yn hunllef, gan fod hyd yn oed y plant mwyaf cydwybodol yn ei chael yn anodd i drefnu eu hamser, yn tueddu i anghofio dyddiadau cau ac i oedi cyn gwneud rhywbeth.

Er mwyn sicrhau tawelwch meddwl i chi eich hun, gofynnwch am fwy o fanylion gan yr ysgol ynghylch pa bryd y mae pob darn o waith cwrs i fod i gael ei gwblhau. Gwnewch amserlen y gellir ei dilyn a gwnewch yn siwr bod eich plentyn yn cadw ati.

Does dim angen dweud na ddylech helpu gydag arholiadau sy'n rhan o waith cwrs. Ond nid yw hynny'n golygu na ddylech deimlo'n rhydd i drafod pynciau gyda'ch plant, eu helpu i ddod o hyd i ddeunydd ymchwil perthnasol mewn llyfrgelloedd ac ar y rhyngrwyd, cynnig cyngor cyffredinol ac, wrth gwrs, ddarparu digon o anogaeth.

Ceisiwch wneud y broses o adolygu ar gyfer arholiadau yn bennod sy'n agor drysau ym mywyd eich plentyn, yn hytrach na chyfnod dychrynllyd. Oes, mae modd gwneud hyn! Ond dim ond os ydych yn dal i atgoffa'ch plentyn nad y canlyniad terfynol sy'n bwysig i chi, ond y ffaith ei fod wedi gwneud ei orau.

Yn ystod yr wythnosau adolygu hollbwysig hyn, byddwch yn barod i fod yn hyfforddwr personol, cogydd, cynorthwy-ydd ymchwil, gwas bach, codwr calon ac ysgwydd i grio arni. Rhowch ddigon o sylw i'ch plentyn - bydd pethau yn ôl fel arfer, wrth gwrs, pan fydd yr arholiadau drosodd!

Ceisiwch helpu'r plentyn i fod yn drefnus:

  • helpwch i lunio amserlen adolygu realistig.
  • gofynnwch am gael gweld amserlen yr arholiadau (a allai gynnwys arholiadau ar gyfer nifer o wahanol fyrddau arholi).
  • cyfeiriwch nhw at safleoedd fel y Âé¶¹Éç sy'n cynnwys cyngor da ond gofalwch nad ydynt yn cael eu temtio i wastraffu amser adolygu gwerthfawr drwy syrffio gormod ar y we.

Helpwch nhw i ddysgu:

  • siaradwch gyda nhw am bynciau astudio a phrofwch nhw er mwyn cael gweld faint y maent wedi ei ddysgu.
  • Gofynnwch gwestiynau am y pwnc, mwy o gwestiynau, a mwy fyth. Mae rhieni'n gallu bod yn dwp iawn, cofiwch! Bydd gorfod egluro pethau'n fanwl wrthych chi'n eu helpu i gael trefn ar eu meddyliau.

Mae gwthio a cheisio dwyn perswâd a swnian hen-ffasiwn yn iawn o bryd i'w gilydd ond dim ond gyda digon o gariad a gofal.

Gwefannau defnyddiol

I helpu plant Cyfnod Allweddol 2 i wynebu eu profion.


Canllawiau i rieni ar arholiadau a phrofion ysgol gynradd.


Cymorth i ddadansoddi canlyniadau profion cynradd.


Cyngor ar gyfer plant ysgol gynradd sy'n gwynebu arholiadau.


Sut i ddadansoddi canlyniadau arholiadau.


Cyngor i rieni ar helpu'ch plentyn i baratoi ar gyfer TGAU.


Am gyngor ynglyn â dewis pynciau yn yr ysgol uwchradd a beth i wneud ar ôl yr arholiadau.


Sut i ymdopi â straen arholiadau yn yr ysgol uwchradd.


Cyngor am adolygu yn arbennig ar gyfer rhieni.

Am fwy o wybodaeth am y gwahanol fyrddau arholi, ewch i'r safweoedd canlynol.

Dyw'r Âé¶¹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 3 o 3|1 2 3 ÌýYn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý