Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Âé¶¹Éç Cymru'r Byd - Creu Cenedl

Âé¶¹Éç Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

Âé¶¹Éç Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Dyfodiad y Normaniaid
Castell Normanaidd Penfro Castell Normanaidd Penfro

Gwrthryfel y Cymry

Milwr Normanaidd Y Normaniaid sy’n teyrnasu yn Lloegr, sy’n deyrnas ganolog, ymhen fawr o dro. Ond mae Cymru, sy’n fwy datganoledig, yn fwy anodd i’w choncro. Erbyn 1100 y mae’r Normaniaid wedi’u gyrru allan o Wynedd, Ceredigion a’r rhan fwyaf o Bowys. Gruffudd ap Cynan sy’n rheoli Gwynedd. Y mae Cadwgan ap Bleddyn o Bowys a Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr yn ceisio sefydlu’i hunan yn y Deheubarth. Yn yr ucheldir ar y ffin ac yn y de-ddwyrain y mae aelodau’r hen deuluoedd brenhinol Cymreig yn brwydro i ddal gafael yn eu hawdurdod.

Creu Mers Cymru
Milwr o'r Oes Normanaidd Felly y mae Cymru’n cael ei rhannu rhwng yr ardaloedd hynny sydd dan reolaeth frodorol arglwyddi y cestyll Normanaidd - rhwng Pura Walia a Marchia Wallie. Er bod yr arglwyddi Normanaidd yng Nghymru yn ddeiliaid brenin Lloegr, nid ydynt yn byw dan gyfraith Lloegr. Y maent yn annibynnol ac maent yn rhydd i gynnal llysoedd, adeiladu cestyll a rhyfela. Bydd y Mers yn para mewn rhyw ffurf am dros bedwar cant a hanner o flynyddoedd, ac fe fydd yn elfen bwysig yn hanes Cymru.

Y Normaniaid a’r Eglwys
Er ffyrnigrwydd y Normaniaid, y maent yn dduwiol yn eu ffordd eu hunain ac yn deyrngar i’r babaeth oedd wedi bendithio’u hymosodiad ar Loegr. Y maent yn ystyried bod rheoli’r Eglwys Gymreig yn hanfodol i’w sefyllfa yng Nghymru. Y maent hefyd yn ceisio hybu buddiannau Rhufain a gwneud Cymru’n aelod o’r gymdeithas Ewropeaidd Ladinaidd. Felly, maent yn atal clasau’r Eglwys Geltaidd ac yn gwneud llawer ohonynt yn eglwysi cysylltiol &acirc’r canolfannau eglwysig yn Lloegr neu Ffrainc. Yn llefydd fel Cas-gwent ac Ewenni y maent yn sefydlu mynachdai Benedictaidd. Y maent hefyd yn cyflwyno i Gymru yr urddau newydd oedd wedi’u ffurfio yn Ffrainc, megis Cluny, Tiron, Savigny a Cîteaux. Mae’r esgobaethau Cymreig yn cael eu had-drefnu a’u ffiniau’n cael eu gosod. Y mae’r pedwar esgob Cymreig yn gorfod derbyn awdurdod archesgob Caer-gaint ac mae'r cadeirlannau’n cael eu codi yn y dull Ewropeaidd diweddara. Y mae’r wlad yn cael ei rhannu’n blwyfi ac yn gorfod derbyn cyfraith Eglwys Rhufain.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymreig
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru

  4. Dyfodiad y Normaniaid
    Tud 1, Tud 2, Tud 3,

  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
Âé¶¹Éç
© MM
Ìý Ìý


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy