Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Âé¶¹Éç Cymru'r Byd - Creu Cenedl

Âé¶¹Éç Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

Âé¶¹Éç Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Dyfodiad y Normaniaid
Castell Caerffili
Castell Caerffili

Newid cymdeithasol

Yr un pryd a goresgyniad y Normaniaid y mae yna adfywiad economaidd yn Ewrop ac mae’r hinsawdd yn gwella. Y mae’r boblogaeth yn cynyddu a bwrdeistrefi’n cael eu sefydlu. Yn y Mers y mae pobl y gall y Normaniaid ddibynnu ar eu teyrngarwch yn ymgartrefu - yn fewnfudwyr o Loegr gan fwyaf. O hyn y deillia’r syniad bod y trefi yn ddatblygiad estron i Gymru; eto yn yr ardaloedd dan reolaeth y brodorion y mae yna ddatblygiadau o natur drefol hefyd. Yn ychwanegol, y mae’r Normaniaid yn annog estroniaid i ymsefydlu mewn rhannau o’r Gymru wledig - Gwyr, Penfro a Bro Morgannwg yn fwyaf arbennig. Er mai Cymry, gan fwyaf sy’n byw yn arglwyddiaethau’r Mers, y maent i gyd o fewn cyrraedd y mannau Seisnig, gyda’u cestyll a’u mewnfudwyr.

Y rhanbarthau dan reolaeth Gymreig
Castell Penfro Tra mae arglwyddi’r Mers yn tynhau eu gafael dros lawer o’r iseldir a’r gororau, y mae’r arweinwyr Cymreig yn ceisio ymgryfhau. Madog ap Maredudd (bu farw yn 1160) sydd ben ym Mhowys, Owain ap Gruffudd (bu farw yn 1170) yng Ngwynedd a Rhys ap Gruffudd (Arglwydd Rhys a fu farw yn 1197) yn y Deheubarth. Y mae Rhys hefyd yn gwarchod y breninliniau Cymreig bychain yng ngogledd Morgannwg a’r ucheldir rhwng dyffrynnoedd yr Hafren a’r Gwy. Maent yn ceisio efelychu’r Normaniaid. Maent yn dechrau codi cestyll a defnyddio marchogion. Yn benodol maent yn gweld rhinwedd yn y drefn fynachaidd newydd. Erbyn 1200 y mae gan bob un o’r arweinwyr Cymreig fynachdy Urdd Cîteaux. Y mae yna fannau cyfarfod a mynwentydd i’r arweinwyr yn abatai Sistersaidd Ystrad Fflur a Glyn y Groes.

Swyddogaeth Brenin Lloegr
Y mae pob un o’r llywodraethwyr Cymreig yn gorfod cydnabod awdurdod Brenin Lloegr. O ganlyniad y mae brenhinoedd megis Harri I a Harri II i ymyrryd yn helaeth a gwleidyddiaeth Cymru. Hyn, ochr yn ochr &acirc hyder cynyddol y llywodraethwyr Cymreig, sy’n cyfrannu at dwf pwer brenin Lloegr. Y mae Gerallt Gymro yn mynd i’r afael a’r ddwy wedd hon, ac yntau o waed cymysg, Normanaidd a Chymreig. Yn ei Disgrifiad o Gymru (1193) mae’n neilltuo un bennod i drafod sut y gall brenin Lloegr goncro Cymru’n llwyr. Mewn pennod arall dywed sut y dylai’r Cymry fynd ati i wrthsefyll hynny.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymreig
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru

  4. Dyfodiad y Normaniaid
    Tud 1, Tud 2, Tud 3,

  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
Âé¶¹Éç
© MM
Ìý Ìý


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy